Y Cyngor i gefnogi lansio cynllun peilot Tocyn Euraidd
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Chwaraeon Cymru a sefydliadau eraill yn y trydydd sector i gyflawni cynllun gweithgareddau’r Tocyn Euraidd.
Nod y cynllun yw darparu gweithgareddau corfforol a chyfleoedd chwaraeon i drigolion y Barri sy'n 60 oed a throsodd. Bydd 400 o docynnau'n cael eu dosbarthu i breswylwyr dethol, a fydd yn rhoi mynediad iddynt i wyth sesiwn am ddim. Bydd 20 o wahanol weithgareddau ar gael, yn amrywio o saethyddiaeth i Zumba.
Mae gobaith y bydd y cynllun yn helpu pobl hŷn i ail-ymgysylltu â'r gymuned a'u hysbrydoli i fyw bywydau iachach, yn ogystal â gwella hyder.
Gall nifer dethol o drigolion gael mynediad at Docynnau Euraidd drwy bartneriaid atgyfeirio prosiectau, gan gynnwys Action for Elders, Age Connects, Y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Tai Newydd, Race Equality First, Cartrefi'r Fro a Thai Wales & West. Bydd gan bob partner nifer dethol o docynnau i'w dosbarthu.
Bydd y tocynnau sy'n weddill ar gael drwy hunangyfeirio yn ardal Y Barri. Gall preswylwyr gasglu tocyn mewn siopau lleol, archfarchnadoedd a lleoliadau eraill. Bydd pob tocyn ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar y prosiect hwn i gefnogi trigolion sy'n segur ar hyn o bryd i ymgymryd â gweithgareddau newydd, gan eu hysbrydoli i gymryd rhan yn y tymor hwy gobeithio.
"Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar wella cyfraddau cyfranogi ymhlith grwpiau a nodwyd yn ein cymuned, sydd hefyd yn ffocws i'n partneriaid Iechyd Cyhoeddus a Chwaraeon Cymru sy'n ariannu'r prosiect hwn.
"Yn ogystal â'r manteision iechyd corfforol a gafwyd o gymryd rhan yn y gweithgaredd, rydym yn gobeithio y bydd cymryd rhan yn y prosiect hefyd yn dod â manteision cymdeithasol, gan helpu'r cyfranogwyr i gwrdd â phobl newydd a chynyddu eu cyfleoedd i gymdeithasu."
Dywedodd Elliot Pottinger, arweinydd prosiect y Tocyn Euraidd: "Gall bod yn gorfforol actif bob amser helpu pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach. Mae'r Tocyn Euraidd wedi'i gynllunio i helpu pobl 60+ oed i ddod o hyd i weithgaredd y maent yn ei fwynhau.
"Mae cael wyth sesiwn am ddim yn gyfle unigryw i helpu i adeiladu arfer cadarnhaol gyda bod yn gorfforol actif ac rydyn ni’n methu aros i weld pobl yn cael darpariaeth o ansawdd uchel yn ardal Y Barri."
Bydd y cynllun yn rhedeg o ddydd Llun 13 Medi tan fis Mawrth 2022. Mae'r Cyngor yn gobeithio ehangu'r cynllun yn y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Elliot Pottinger, Swyddog Byw'n Iach (Oedolion): epottinger@valeofglamorgan.gov.uk