Glan y Mor Penarth i gael gweddnewidiad gwerth £200,000
Mae Esplanâd Penarth yn ymbaratoi ar gyfer cyfres o welliannau yn y rownd ddiweddaraf o waith uwchraddio gan Gyngor Bro Morgannwg.
Comisiynwyd contractwyr i gwblhau'r prosiect gwerth £200,000, a fydd yn gweld y pier, y pafiliwn a'r ardaloedd cyfagos yn cael eu paentio a'u hadnewyddu, gyda gwaith pellach o ail-wynebu ffyrdd hefyd yn digwydd.
Bydd rheiliau, meinciau, bolardiau, colofnau goleuo, y decin o amgylch y pafiliwn, Pen y Pier a thoiledau yn cael eu paentio, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd sgaffaldiau sy'n ofynnol ar gyfer rhannau o'r cynllun yn cael eu codi fesul rhan i gadw golwg yr ardal a sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fusnesau.

Tra bod rhaglen bythefnos o ail-wynebu ffyrdd yn cael ei chwblhau, bydd rhan o'r briffordd rhwng Bridgeman Road a Marine Parade ar gau yn ystod y dydd ar ddyddiau'r wythnos rhwng 11 a 22 Hydref.
Ond, bydd caffi poblogaidd y Big Fresh Catering Company a busnesau eraill yr esplanâd yn parhau ar agor drwyddi draw.
Mae'r gwaith adnewyddu hwn yn dilyn gwaith cynharach ar y esplanâd sydd wedi cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd a newidiadau i balmentydd.
Mae'n rhan o gyfres gynhwysfawr o welliannau a weithredwyd gan y Cyngor ers iddo gymryd yr awenau yn y pafiliwn ym mis Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw Esplanâd Penarth i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae'n lleoliad eiconig sydd wedi bod yn boblogaidd ers dros 100 mlynedd ac yn un sydd â dyfodol disglair iawn yn ein barn ni.
"Yn y cam diweddaraf o waith gwella, bydd yr esplanâd, y pier a'r pafiliwn yn gweld rhaglen gynhwysfawr o waith peintio ac adnewyddu yn mynd rhagddo i'w gael i edrych yn ôl ar ei orau.
"Rydym yn gobeithio y bydd hynny'n gwneud yr ardal hyd yn oed yn fwy deniadol, yn cynyddu nifer yr ymwelwyr ac yn rhoi hwb i'r economi leol."
Mae sinema a bar y pafiliwn eisoes wedi ailagor ac mae trafodaethau'n parhau ynghylch cynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol yn y lleoliad.
Ymhlith yr awgrymiadau eraill i ddod allan o arolwg cyhoeddus diweddar mae defnyddio'r adeilad fel man bwyd stryd a chynnal dosbarthiadau a sesiynau grŵp yno.