Cost of Living Support Icon

 

Dwsinau o swyddi ar gael mewn diwrnod recriwtio Gyrfaoedd mewn Gofal

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal digwyddiad recriwtio gyda mwy nag ugain o gyflogwyr lleol i helpu i fynd i'r afael â phrinder gofalwyr yn yr ardal. 

 

  • Dydd Iau, 28 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Cynhelir y digwyddiad Gyrfaoedd mewn Gofal yn Ystafelloedd Paget ym Mhenarth ddydd Mawrth 02 Tachwedd rhwng 10am a 3pm. 

Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Gyda darparwyr gofal ar draws y Fro i gyd yn awyddus i recriwtio staff newydd ar frys, mae'r Cyngor yn cynnal digwyddiad i ddod â chyflogwyr a cheiswyr gwaith at ei gilydd.

 

"Gall gweithio mewn gofal fod yn hynod werth chweil. Mae'n yrfa sy'n galluogi pobl i fynd adref ar ddiwedd y dydd gan wybod eu bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i rywun. 

 

"Bydd ein digwyddiad yn cynnwys gofalwyr a gyflogir mewn amrywiaeth o rolau a fydd wrth law i siarad â darpar ymgeiswyr am eu swyddi a'r cyfleoedd y gall gweithio mewn gofal eu cynnig. Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa mewn gofal, yna byddem wrth ein boddau o gwrdd â chi."

Mae swyddi llawn amser a rhan-amser ar gael ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, chwiliwch am 'careers in care' ar Facebook neu e-bostiwch stevedavies@valeofglamorgan.gov.uk.