Council secures over £800,000 for active travel initiatives
MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau mwy na £800,000 o gyllid ar gyfer prosiectau teithio llesol yn y Sir.
Bydd yr arian hwn yn mynd tuag at wella'r llwybrau cerdded a beicio presennol ac asesu pa mor ymarferol yw creu rhai newydd yn y Fro wledig.
Defnyddiwyd gwybodaeth o Ymgynghoriad Statudol Teithio Llesol yn y pum cais a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd dyfarniad cyllid o 250,000 yn cael ei ddefnyddio i greu croesfan twcan newydd ger Castell Walston yng Ngwenfô, gyda'r gweddill yn cael ei ddefnyddio i wella'r llwybrau presennol drwy osod cyrbau isel, seddi a murluniau.

Bydd Penarth yn cael dwy orsaf ddocio OVObike newydd, tra bydd cynllun o Barons Court i Heol Penarth hefyd yn cael ei ddatblygu yn dilyn cais llwyddiannus am £200,000.
Sicrhawyd swm o £220,000 i greu pum llwybr teithio llesol newydd, gan gynnwys y Bont-faen i Ystradowen a Chroes Cwrlwys i Sain Nicolas, yn ogystal â gosod dyfais cyfrif beiciau a mannau parcio beiciau.
Bydd adran ychwanegol yn cael ei hychwanegu at lwybr y tu allan i The Gathering Place yn Sain Tathan, tra bydd dichonoldeb llwybr rhwng y pentref a'r Rhws hefyd yn cael ei ymchwilio fel rhan o lwfans cyllid o £120,000.
Bydd £45,000 arall yn mynd tuag at ddadansoddi data, cyhoeddusrwydd a hyrwyddo.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau'r cyllid hwn, a fydd yn mynd tuag at wella cynlluniau teithio llesol presennol ac archwilio'r posibilrwydd o greu hyd yn oed mwy, yn enwedig yng Ngorllewin y Fro.
"Mae annog beicio a cherdded nid yn unig yn dda i iechyd unigol, mae hefyd o fudd i'r amgylchedd.
"Ar ôl datgan Argyfwng Hinsawdd, mae cynlluniau fel y rhain yn rhan bwysig o'n menter Prosiect Sero, sy'n anelu at leihau lefelau allyriadau carbon yn sylweddol ledled y Sir."
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am Drafnidiaeth:"Rydym yn gwybod bod cael pobl allan o geir ar gyfer teithiau byr i feicio neu gerdded yn agenda uchelgeisiol, ond os ydym am gyrraedd ein targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2050 mae angen i ni weithredu nawr.
"Mae cael y seilwaith cywir yn ei le yn allweddol i annog mwy o bobl i deimlo'n ddiogel i gerdded a beicio a dyna pam rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi cyllid sylweddol mewn teithio llesol eleni."