Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad ar welliannau arfaethedig o amgylch Gorsaf Reilffordd Dociau'r Barri
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn am eich barn ar newidiadau posibl yng nghyffiniau Gorsaf Drenau Dociau'r Barri.
Datblygwyd cynlluniau a chynigion ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth sy'n cynnwys sefydlu cyfnewidfa bysus a thacsis i wella mynediad i'r orsaf reilffordd.
Nod Cyfnewidfa Drafnidiaeth arfaethedig Dociau'r Barri yw gwella mynediad a chyfleusterau gorsafoedd i ddarparu ar gyfer rhagor o deithwyr, gan ddefnyddio trenau ychwanegol, a fydd yn stopio yng Ngorsaf Dociau'r Barri o 2023 ymlaen.
Fel rhan o gamau olaf yr arfarniad o dan y system Weltag, bydd y Cyngor yn dechrau ymarfer ymgynghori o heddiw ymlaen a fydd yn ceisio barn y cyhoedd ar y cynigion a ffefrir a chyflwyno'r gwaith yn raddol.
Mae'r ymgynghoriad yn ceisio sefydlu tystiolaeth annibynnol ynghylch y galw am y gwelliannau hyn. Os oes cefnogaeth i'r opsiwn a ffefrir, bydd gwaith yn cael ei gynllunio’n fanwl a'i gaffael. Cytunwyd ar gyllid, mewn egwyddor, fel rhan o'r rhaglen Metro+ ranbarthol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth ynghylch y cynigion:
"Mae'r Cyngor yn gofyn am farn y gymuned leol ar gynigion i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus o amgylch Gorsaf Reilffordd Dociau'r Barri.
"Nid yn unig y bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth arfaethedig yn gwella mynediad i orsafoedd, ond mae'r cynigion hefyd yn cynnwys: seilwaith gwefru cerbydau trydan; gwelliannau i'r llwybr presennol i gerddwyr a beicwyr i'r Orsaf o Dock View Road; parcio beiciau ychwanegol a gwelliannau i arwyddion, yr isffordd bresennol, y goleuadau a'r seddau o amgylch yr orsaf.
"Dim ond os ydym yn buddsoddi mewn cysylltiadau trafnidiaeth gwyrddach, fel y rhain, y gellir gwireddu ein hymrwymiad i leihau allyriadau carbon ym Mro Morgannwg."s in the Vale of Glamorgan can only be realised if we invest in greener transport links, such as these.”
Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion hyn a sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor yn: www.valeofglamorgan.gov.uk/BarryDocksTransportInterchange