Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 12 Mis Hydref 2021
Bro Morgannwg
Barri
Yn gynharach eleni, cwblhawyd prosiect i adeiladu 11 eiddo, gan gynnwys pump ar gyfer preswylwyr anabl, ar y safle yn Skomer Road yn y Barri.
Nawr mae cynlluniau ychwanegol i adeiladu wyth fflat un ystafell wely, 18 o dai dwy ystafell wely, tri thŷ tair ystafell wely a dau fyngalo tair ystafell wely wedi’u haddasu.
Dyma'r cynllun diweddaraf i fynd i'r afael ag angen sylweddol am dai cyngor yn y Fro, sydd â thua 6,000 o bobl ar y rhestr aros ar hyn o bryd.
Mae'n dilyn cwblhau datblygiad tebyg yn Llys Llechwedd Jenner, tra bod eraill ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri ynghyd â fflatiau pobl hŷn ym Mhenarth.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'r angen am dai cyngor yn cynyddu felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o'r ansawdd orau. "Mae hwn yn un o nifer o ddatblygiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a dylai ddarparu lleoedd cyfforddus i deuluoedd, cyplau a phobl sengl fyw ynddynt. "Mae'r holl eiddo wedi'i adeiladu i'r fanyleb a'r safonau uchaf ac rydym yn gobeithio croesawu pobl iddynt yn fuan."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'r angen am dai cyngor yn cynyddu felly mae'n hanfodol ein bod yn darparu ar gyfer hynny drwy gynnig eiddo o'r ansawdd orau.
"Mae hwn yn un o nifer o ddatblygiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd a dylai ddarparu lleoedd cyfforddus i deuluoedd, cyplau a phobl sengl fyw ynddynt.
"Mae'r holl eiddo wedi'i adeiladu i'r fanyleb a'r safonau uchaf ac rydym yn gobeithio croesawu pobl iddynt yn fuan."