Cost of Living Support Icon

 

Ymgyrch newydd i Gymru er mwyn nodi wythnos genedlaethol profi HIV

Lansiwyd ymgyrch newydd gan Fast Track Caerdydd A'r Fro i geisio codi ymwybodaeth a chynyddu mynediad i brofion HIV.

 

  • - |  Vale Of Glamorgan


WAD

 

Cynhelir y digwyddiad rhwng 22 a 28 Tachwedd ac mae'n agored i unrhyw un ymuno a helpu i godi ymwybyddiaeth.

 

Nod yr wythnos yw chwalu'r stigma sy'n atal pobl rhag mynd am brawf a dangos pa mor hawdd a chyflym yw hi i gael prawf.

 

Cael eich profi'n gynnar yw'r cam cyntaf o ran amddiffyn eich hun ac eraill rhag y feirws.

 

Ar hyn o bryd mae gan Gymru fwy o achosion o stigma HIV a diagnosis hwyr o HIV na'r cyfartaledd dross y Deyrnas Gyfunol. Mae llywodraeth Cymru wedi addo dileu achosion newydd o HIV erbyn 2030.

 

Mae'r cynllun profi drwy'r post newydd i Gymru gyfan yn cynyddu amlder y profi yn sgil pandemig Covid-19.

 

Dwedodd Gian Molinu, Cadeirydd Fast Track Caerdydd a'r Fro:

"Mae angen i bobl yn Nghymru wybod bod modd trin ac atal HIV yn yr 21ain ganrif. Mae angen i ni gyfleu'r neges mai profion yw'r allwedd i atal HIV erbyn 2030."

Da diwrnod Aids y Byd ar 1 Rhagfyr yn dynn ar sodlau Wythnos Profi HIV.

 

I gydnabod hynny, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn goleuo Pafiliwn Pier Penarth, llochesi Ynys y Barri a thwnnel Hood Road yn y Barri yn goch.

 

Mae Fast Track Caerdydd a'r Fro yn rhan o rwydwaith byd-eang o ddinasoedd sy'n anelu i ddileu stigma HIV ac unrhyw drosglwyddiad newydd o HIV erbyn 2030. Goruchwilir Fast Track Caerdydd a'r Fro gan y Bwrdd Iechyd, Iechyd y Cyhoedd, uwch randdeiliaid ac awdurdodau lleol, gan gynnwyd Cyngor Bro Morgannwg.