Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 29 Mis Tachwedd 2021
Bro Morgannwg
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario £30,000 fel y gellir cynnal gemau pêl-droed yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot y gaeaf hwn.
Mae’r ystafelloedd newid yn y lleoliad wedi bod allan o ddefnydd ar ôl i broblem gyda'r boeler effeithio ar y cawodydd.
Ond mae'r Cyngor bellach wedi trefnu i osod boeler newydd a gwneud trefniant gwaith bryd 24-awr ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
O ganlyniad, gellir cynnal gemau pêl-droed a digwyddiadau eraill yn y lleoliad unwaith eto.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rwy'n falch iawn y gellir defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot eto a hoffwn ddiolch i Gynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg am eu dealltwriaeth gyda’r mater hwn. "Ar ôl i'r boeler gael ei gondemnio oherwydd pryderon diogelwch, gweithiodd ein tîm cynnal a chadw gydag arbenigwyr allanol i ddatrys y mater, a gafodd ei gymhlethu gan y ffaith nad oes cyflenwad nwy ar y safle. "Mae'r Cyngor wedi gwario swm sylweddol o arian i ddatrys y broblem a, diolch byth, gall gemau ailddechrau nawr yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot." Dywedodd Mark Harvey, Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg: "Hoffwn ddiolch i Dave Knevett a staff eraill Cyngor Bro Morgannwg a weithiodd gyda fi i roi'r ganolfan chwaraeon ar waith unwaith eto. Mae gan y gynghrair syniadau eraill ar sut y gellir gwella'r ganolfan chwaraeon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Cyngor i wireddu'r cynlluniau hynny."
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:
"Rwy'n falch iawn y gellir defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot eto a hoffwn ddiolch i Gynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg am eu dealltwriaeth gyda’r mater hwn.
"Ar ôl i'r boeler gael ei gondemnio oherwydd pryderon diogelwch, gweithiodd ein tîm cynnal a chadw gydag arbenigwyr allanol i ddatrys y mater, a gafodd ei gymhlethu gan y ffaith nad oes cyflenwad nwy ar y safle.
"Mae'r Cyngor wedi gwario swm sylweddol o arian i ddatrys y broblem a, diolch byth, gall gemau ailddechrau nawr yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot."
Dywedodd Mark Harvey, Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg:
"Hoffwn ddiolch i Dave Knevett a staff eraill Cyngor Bro Morgannwg a weithiodd gyda fi i roi'r ganolfan chwaraeon ar waith unwaith eto.
Mae gan y gynghrair syniadau eraill ar sut y gellir gwella'r ganolfan chwaraeon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Cyngor i wireddu'r cynlluniau hynny."