Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 24 Mis Tachwedd 2021
Bro Morgannwg
Mae bwriad i ailwampio ystâd dai yn y Barri ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ystod o welliannau.
Bydd gwaith ar erddi tai, byngalos a fflatiau ac ardaloedd cymunedol cael ei wneud yn ystâd Buttrills yn y Barri.
Bydd mannau awyr agored newydd ar gyfer sychu dillad a storio eitemau hefyd yn cael eu creu a bydd goleuadau stryd LED mwy ynni-effeithlon yn cael eu gosod yn unol ag ymrwymiad Prosiect Sero’r Cyngor i fod yn garbon niwtral.
Mae trigolion wedi bod yn ymwneud yn fawr â'r cynlluniau, sydd hefyd yn cynnwys plannu coed a gosod blychau adar i ddiogelu bywyd gwyllt lleol.
Mae'r broses o benodi contractwr i wneud y gwaith eisoes ar y gweill a'r gobaith yw y bydd y prosiect yn dechrau yn y dyfodol agos.
Mae'n dilyn y gwaith helaeth a wnaed i uwchraddio stoc tai y cyngor yn unol â Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae'r gwaith y bwriedir ei wneud yn Ystâd Buttrills yn rhan o raglen helaeth ar gyfer cynnal a gwella tai Cyngor. “Mae datblygiadau newydd wedi’u cyflawni yn Clos Holm View a Llys Llechwedd Jenner yn y Barri, tra bod gwaith arall ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri ynghyd â fflatiau i bobl hŷn ym Mhenarth. "Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r trigolion sy'n byw yno, gan greu mannau awyr agored dymunol ac ymarferol iddynt eu mwynhau. Dylai hefyd roi hwb i fywyd gwyllt lleol a gwneud yr ardal yn fwy ecogyfeillgar."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae'r gwaith y bwriedir ei wneud yn Ystâd Buttrills yn rhan o raglen helaeth ar gyfer cynnal a gwella tai Cyngor.
“Mae datblygiadau newydd wedi’u cyflawni yn Clos Holm View a Llys Llechwedd Jenner yn y Barri, tra bod gwaith arall ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri ynghyd â fflatiau i bobl hŷn ym Mhenarth.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r trigolion sy'n byw yno, gan greu mannau awyr agored dymunol ac ymarferol iddynt eu mwynhau. Dylai hefyd roi hwb i fywyd gwyllt lleol a gwneud yr ardal yn fwy ecogyfeillgar."