Cynlluniau i ailwampio Pafiliwn Pier Penarth yn parhau ar ol i ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn bwrw ymlaen â chynlluniau i ailwampio'r hyn sydd ar gael ym Mhafiliwn Pier Penarth ar ôl cwblhau ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc.
Cyflwynwyd adroddiad i aelodau'r Cabinet yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am weithgareddau yn yr adeilad ers i'r Cyngor gymryd awenau’r gwaith o’i weithredu ddiwedd mis Chwefror.
Mae rhaglen gynhwysfawr o waith atgyweirio a chynnal a chadw wedi'i chynnal, ac mae’r Big Fresh Café hefyd wedi agor, gan werthu amrywiaeth o fwydydd a diodydd gan gyflenwyr lleol.
Yn ogystal â chyfrannu at gostau rhedeg y Pafiliwn, defnyddir elw Big Fresh i ariannu prydau ysgol iach i ddisgyblion y Fro. Mae'r caffi bellach yn cynnig bwydydd a diodydd dan do a fel tecawê.

Gan edrych tua'r dyfodol, gofynnodd y Cyngor i drigolion ym mha ffordd arall yr hoffent i'r pafiliwn gael ei ddefnyddio mewn ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd rhwng 17 Mawrth ac 21 Ebrill.
Derbyniwyd mwy na 1,000 o ymatebion i'r arolwg a’r atebion fwyaf poblogaidd oedd digwyddiadau sinema, cerddoriaeth fyw, theatr a chomedi.
Roedd llawer o ddiddordeb hefyd yn y caffi, a gofod bwyd stryd a bar posibl yn ogystal â dosbarthiadau a sesiynau grŵp yn yr adeilad hanesyddol.
Mae trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda phartneriaid ynghylch ailagor y sinema a sut y gellid cynnal digwyddiadau cerddoriaeth ac artistig gan gadw at gyfyngiadau’r coronafeirws.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Ar ôl cymryd yr awenau i weithredu Pafiliwn Pier Penarth, aethom ati'n gyflym i asesu cyflwr yr adeilad, trefnu gwaith atgyweirio a threfnu ei lanhau'n drylwyr. Mae caffi sy’n cael ei weithredu gan gwmni arlwyo Big Fresh y Cyngor hefyd wedi agor.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i ailsefydlu'r pafiliwn fel canolbwynt ym Mhenarth ac yn ofod y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.
"Cawsom ymateb ysgubol i'n hymgynghoriad ar ddefnyddio’r pafiliwn yn y dyfodol, sy’n pwysleisio pwysigrwydd y gofod i’r rheiny sy'n byw'n lleol.
"Rydym wedi bod yn adolygu'r ymatebion hynny'n ofalus a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg.
"Byddwn nawr yn mynd ati i ymchwilio'n fanylach i'r posibiliadau hyn gyda'r nod o'u gwireddu."