Llyfrau stori newydd yn helpu plant ag anabledd i ddatblygu sgiliau symud
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynhyrchu amrywiaeth o lyfrau i helpu plant ag anabledd i ddatblygu sgiliau symud sylfaenol.
Mae llyfrau wedi’u creu ar gyfer grwpiau anabledd penodol, megis plant ag awtistiaeth, anableddau dysgu, namau corfforol, defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau pŵer a phlant â nam ar eu golwg.
Mae pob un yn cynnwys stori ddiddorol, ynghyd â darluniau lliwgar, a gweithgareddau corfforol i'w cyflawni wrth i'r plot ddatblygu.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Ar ôl sgwrsio ag amrywiaeth o bobl, daeth yn amlwg y gallai fod angen help ar rai plant anabl i wella eu sgiliau corfforol.
"Mae'r llyfrau hyn yn ffordd ysgogol o wneud hynny. Gall gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r stori helpu i ddatblygu ystod o symudiadau, gan wella gallu corfforol y plant.
"Byddant yn cael eu dosbarthu am ddim i amrywiaeth eang o leoliadau a gellir eu lawrlwytho hefyd o wefan y Cyngor yn Gymraeg neu yn Saesneg."
Cafodd y llyfrau eu creu ar ôl ymgynghori ag Ymwelydd Iechyd Arbennig, ysgolion a rhieni, a nododd nad yw llawer o blant yn cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd corfforol.
Maent yn cynnig awgrymiadau ar gyfer gweithgarwch corfforol sy'n benodol i grŵp nam penodol mewn ffordd hwyliog drwy adrodd stori.
Bydd modd i deuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau eraill fel cynlluniau chwarae weld y llyfrau ar ffurf copi caled yn rhad ac am ddim, er mwyn eu hannog i ymgymryd â’r gweithgareddau yn y lleoliadau hyn.
Ariannwyd y fersiynau printiedig o'r llyfrau stori gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro gan fod y prosiect yn cyfrannu at ei gynllun Symud Mwy, Bwyta’n Dda.