Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 10 Mis Mai 2021
Bro Morgannwg
Cafodd mwy na 100 o eiddo yn Ninas Powys a Sili eu heffeithio gan lifogydd mewnol ar 23 Rhagfyr 2020 ac mae'r Cyngor eisoes wedi sicrhau £149,270 gan Lywodraeth Cymru drwy 'grant rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach' i fwrw ymlaen â rhoi mesurau diogelu eiddo ar waith mewn 22 eiddo unigol yn ardal Sili. Bydd hyn yn lleihau'r risg y bydd llifddwr yn mynd i mewn i gartrefi gan ddefnyddio cyfuniad o gynhyrchion fel drysau llifogydd.
Mae swyddogion wrthi’n cwblhau adroddiad brys i Lywodraeth Cymru yn manylu ar yr ymchwiliadau i'r llifogydd diweddar ym mis Rhagfyr y llynedd. Bydd yr adroddiad yn cynnwys manylion penodol yn ymwneud â hanes llifogydd, dadansoddiad o'r glaw a gafwyd ac achosion posibl neu debygol a arweiniodd at y llifogydd dan sylw yn ogystal â nodi cyfrifoldebau perthnasol yr awdurdodau rheoli risg a rôl unrhyw awdurdod arall. Gall rhoi mesurau diogelu ar waith mewn eiddo unigol gynnig sicrwydd a diogelwch ychwanegol i breswylwyr, y mae rhai ohonynt yn byw mewn ofn bob tro y mae hi’n bwrw glaw yn drwm, fodd bynnag, nid yw pob eiddo o reidrwydd yn addas ar gyfer gweithredu mesurau o'r fath.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol ac mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gydag awdurdodau rheoli risg perthnasol i leihau'r perygl y bydd llifogydd yn effeithio ar eiddo domestig yn yr ardaloedd hyn yn y dyfodol. Ymddengys mai glaw trwm iawn dros gyfnod byr a dŵr ffo canlyniadol o ddalgylchoedd amaethyddol sy'n ffinio â datblygiadau preswyl yw'r prif reswm dros y llifogydd yn Sili, tra ymddengys fod llifogydd yn Ninas Powys yn ymwneud yn bennaf â chapasiti afon Llangatwyn. Bu ein swyddogion yn llwyddiannus wrth wneud cais i gynllun 'grant rheoli perygl llifogydd ar raddfa fach' Llywodraeth Cymru ar gyfer y llifogydd yn Sili i roi mesurau diogelu ar waith mewn eiddo ac, er nad yw'r llifogydd yn Ninas Powys yn ymwneud ag ased y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdano ac yn cynnwys mwy na 100 o eiddo, maent bellach wedi cael sêl bendith swyddogion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cais am arian ar gyfer achos busnes amlinellol sydd â'r nod o fwrw ymlaen â gwaith diogelu tebyg mewn eiddo yn Ninas Powys mewn partneriaeth â CNC. Fy ngobaith yw, os bydd y cais yn llwyddiannus, y byddai'n diogelu rhywfaint ar eiddo preswylwyr Dinas Powys tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried ac yn rhoi atebion tymor hwy ar waith i leihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal a achosir gan yr afon."
Disgwylir i'r Cyngor gyflwyno ei gais i Lywodraeth Cymru am arian yng Ngwanwyn/haf 2021.