Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 20 Mis Mai 2021
Bro Morgannwg
Cowbridge
Mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ym mis Chwefror, penderfynwyd y dylai'r tir hwn yn ardal Butts y dref gael ei farchnata at ddefnydd manwerthu bwyd a'i ddarparu ar gyfer parcio cyhoeddus.
Fodd bynnag, ers hynny gwnaed amrywiaeth o gynrychiolaethau gan Aelodau Ward lleol, busnesau, trigolion a grwpiau cymunedol, y mae'n rhaid eu hystyried yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adfywio hen safle'r Farchnad Da Byw yn y Bont-faen ac mae denu manwerthwr bwyd i'r lleoliad hwn yn y dyfodol yn parhau i fod yn bosibilrwydd. "Fodd bynnag, mae barn y gymuned ar y pwnc hwn yn bwysig a rhaid ei hasesu'n ofalus. "Er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r camau cywir, mae'n ddoeth cymryd amser i fyfyrio ar rai defnyddiau posibl amgen ar gyfer y tir hwn cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. "Hoffwn ddiolch i'r unigolion sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu syniadau gyda ni. "Yn y pen draw, y defnydd cywir ar gyfer y tir fydd yr un sydd o’r budd mwyaf i'r Bont-faen, ac sydd hefyd yn hyfyw, yn fforddiadwy, yn gyflawniadwy ac yn darparu adfywiad ar gyfer y rhan bwysig hon o'r dref. "Dyma fydd y ffactorau sy'n llywio ein penderfyniad."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adfywio hen safle'r Farchnad Da Byw yn y Bont-faen ac mae denu manwerthwr bwyd i'r lleoliad hwn yn y dyfodol yn parhau i fod yn bosibilrwydd.
"Fodd bynnag, mae barn y gymuned ar y pwnc hwn yn bwysig a rhaid ei hasesu'n ofalus.
"Er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r camau cywir, mae'n ddoeth cymryd amser i fyfyrio ar rai defnyddiau posibl amgen ar gyfer y tir hwn cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
"Hoffwn ddiolch i'r unigolion sydd wedi rhoi o'u hamser i rannu eu syniadau gyda ni.
"Yn y pen draw, y defnydd cywir ar gyfer y tir fydd yr un sydd o’r budd mwyaf i'r Bont-faen, ac sydd hefyd yn hyfyw, yn fforddiadwy, yn gyflawniadwy ac yn darparu adfywiad ar gyfer y rhan bwysig hon o'r dref.
"Dyma fydd y ffactorau sy'n llywio ein penderfyniad."