Lansiad Mis Rhannu Mannau Gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer mis Mai 2021
Mae tîm Cymunedau Gwledig Creadigol Cyngor Bro Morgannwg yn lansio Mis Rhannu Mannau Gwaith ym mis Mai eleni i ddathlu a hyrwyddo'r defnydd o fannau gwaith a rennir yn nhrefi a chymunedau gwledig y sir.
Caiff mis rhannu mannau gwaith ei lansio gyda llwyfan ar-lein sy'n arddangos y math o leoedd y gall pobl weithio ohonynt, yn ogystal â chynnig grant bach i helpu i brynu dodrefn neu offer i gael mannau gwaith yn barod i’w rhannu. Mae mannau posibl yn cynnwys caffis neu fariau, eglwysi, gwestai, canolfannau cymunedol neu safleoedd busnes presennol sydd â lle nas defnyddir.
Mae'r digwyddiad yn rhan o brosiect mwy sy'n gobeithio casglu a lansio mannau amrywiol i bobl weithio'n agosach at gartref, gan leihau'r angen i breswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gymudo.
Ein nod trwy'r mis yw magu arfer newydd i bobl wrth iddynt ystyried eu dull o weithio ar ôl Covid. Rydym am ddangos hyn drwy amrywiaeth mor eang â phosibl o fannau ac mae hyn yn amodol ar leddfu'r cyfyngiadau symud.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, y Cynghorydd Lis Burnett:
"Rydym i gyd wedi profi ffyrdd o fyw a bywydau gwaith sy’n wahanol iawn i unrhyw beth rydym wedi'i brofi o'r blaen. Heb amheuaeth bydd y dyfodol yn cael ei lywio gan ein profiadau diweddar a pharhaus ond nawr yw'r amser i edrych yn greadigol ar sut y dylai ein dyfodol fod. Yma ym Mro Morgannwg, rydym yn gyffrous i weithio gyda TownSq ac arloesi cyfleoedd blaengar i bobl weithio'n nes at eu cartrefi."
Os oes gennych le ym Mro Morgannwg a allai fod ar gael i bobl weithio'n nes at gartref, yna cysylltwch â'r tîm.
Mae'r fenter yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â TownSq, Corfforaeth Busnes Cymru sy'n creu cymunedau sy'n gweithio ar draws y DU.
Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy Gyngor Bro Morgannwg a Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Os oes gennych le ar gael, e-bostiwchhello@townsq.co.uk neu create@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 02921 111 252.