Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn torri llai o wair i greu dolydd

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno trefn torri glaswellt arloesol ar gyfer amrywiaeth o fannau gwyrdd i greu dolydd yn llawn blodau gwyllt.

 

  • Dydd Iau, 01 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Gan weithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Natur Leol y Fro, grŵp sy'n cynnwys busnesau lleol, elusennau a sefydliadau eraill, mae detholiad o safleoedd o amgylch y Sir wedi'u nodi at y diben hwn.


Mae'r rhain yn cynnwys ardal o hen bwll nofio y Cnap a lleoliadau o amgylch Marine Drive, Salisbury Road a Cliff Top ym Mhenarth.


Mae torri glaswellt yn llai aml yn hybu bioamrywiaeth, yn cynorthwyo anifeiliaid a phryfed peillio, ac yn helpu i fynd i'r afael ag effaith amgylcheddol allyriadau Co2.


Defnyddir peiriant i gasglu toriadau, gan leihau lefel y maetholion yn y pridd, sy'n annog blodau gwyllt i dyfu wrth iddynt ffynnu mewn pridd heb lawer o faetholion.  

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Erbyn hyn mae gennym bron i 250,000 m2 o ardaloedd blodau gwyllt ledled y Fro.

 

meadow

“Mae hyn nid yn unig o fudd mawr i fywyd gwyllt, ond hefyd i'r amgylchedd ac mae'n dyst i'n hymrwymiad i’r Prosiect Diwastraff, cynllun y Cyngor i fod yn garbon niwtral.


"Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf rydym wedi colli llawer o goed yn y Sir ac, er ein bod wedi parhau i blannu coed yn ein parciau a'n gerddi, mae gennym lawer o waith i’w wneud o hyd i wneud iawn am y diffyg. "Dylai'r dull newydd hwn greu ardaloedd mawr lle gall natur ffynnu, gan eu gwneud yn fwy bioamrywiol ac yn lleoedd y gall pawb eu mwynhau."

Yn Marine Drive, mae'r cynllun yn golygu newid y ffordd y rheolir glaswelltir mewn dwy ardal.  

 

Yn yr ardal gyntaf, sy'n cael ei adnabod fel blodau gwyllt ac ardaloedd gwyllt y Gorllewin, mae glaswelltir o tua 23,500 m2, yn ffinio â Cliff Wood ar ochr orllewinol Marine Drive, wedi’i adael i dyfu'n naturiol ac yn cael ei dorri unwaith yn unig yn yr Hydref. 

 

Caiff rhan o'r ardal hon ei gorhau â hadau i greu rhan ddeniadol o flodau gwyllt, gyda llwybrau wedi'u torri’n fyr er mwyn i bobl fwynhau'r golygfeydd. 

 

Yn yr ail ardal, mae estyniad blodau gwyllt a choetir Birchgrove, ardal laswellt o tua 19,000 m2 tuag at ben arall Marine Drive yn cael triniaeth debyg Mae’r llwybrau wedi’u torri yma er mwyn i bobl fwynhau'r amgylchedd, ac mae cynlluniau hefyd i gynyddu swm y coed ar ochr ddwyreiniol y safle, gan ymestyn llinell y coed o goed Birchgrove i fyny i glawdd Bull Cliff. 

 

Mae hyn yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal yn sylweddol, gan wella amodau ar gyfer planhigion, pryfed peillio ac adar, a chreu coridor i fywyd gwyllt a allai o bosibl ymestyn yr holl ffordd o Barc Porthceri i Barc Romilly.


Yn Cliff Top Walk ym Mhenarth, bydd hen safle golff a gafodd ei dorri unwaith bob pythefnos, gyda'r glaslawr a'r ffyrdd teg yn cael eu torri'n wythnosol, bellach yn cael ei reoli fel glaswellt dôl a'i dorri ddwywaith y flwyddyn yn unig.


Er mwyn sicrhau nad yw'r glaswellt hirach yn effeithio ar fwynhad unrhyw un o'r safle, mae llwybrau wedi'u torri drwy ardaloedd mwy y gellir eu defnyddio at ddibenion hamdden anffurfiol.