Cyngor y Fro’n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog gyda seremoni codi baner
Nododd Cyngor Bro Morgannwg Ddiwrnod y Lluoedd Arfog eleni gyda seremoni codi baner yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri.
Arweiniodd y Cynghorydd Jayne Norman, Maer Cyngor Bro Morgannwg y seremoni gydag araith, gan ddiolch i Gyn-filwyr a Lluoedd Wrth Gefn am eu gwasanaeth:
"Is-Arglwydd Raglaw, Meiri Tref, Cyd-gynghorwyr, Cynrychiolwyr o'r Lluoedd Arfog, Gwesteion Nodedig, Cyn-filwyr, Boneddigion a Boneddigesau, a gaf i'ch croesawu i gyd heddiw i'r seremoni Codi Baner hon,” dywedodd.
"Mae dathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dechrau heddiw ar gyfer Wythnos y Lluoedd Arfog gyda'r Faner yn cael ei chodi ar adeiladau a thirnodau enwog ledled y wlad.
"Ar ran pobl Bro Morgannwg mae'r seremoni codi’r faner yn dangos ein cefnogaeth i Luoedd Arfog y DU a amddiffynnodd ein Gwlad, y DU, a'i buddiannau.
"Mae ein cefnogaeth a'n diolch hefyd i'r Cyn-filwyr sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi gyda Diwrnod y Lluoedd Arfog yn ddathliad o'u rôl barhaus o fewn y gymuned filwrol.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r Milwyr Wrth Gefn, Cadetiaid, Gwirfoddolwyr sydd hefyd yn rhoi o'u hamser i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn a chefnogi'r Lluoedd Arfog.
"Bob amser yn ein calonnau mae dewrder ein lluoedd arfog a'r rhai a gollodd eu bywydau ar gyfer ein yfory."
Bydd Baner y Lluoedd Arfog yn cael ei hedfan am yr wythnos yn arwain at Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn 26 Mehefin, 2021.
Oherwydd cyfyngiadau Covid, nid oedd y digwyddiad yn agored i'r cyhoedd ond fe'i darlledwyd yn fyw ar dudalen Facebook y Cyngor.
“Vice Lord Lieutenant, Town Mayors, Fellow Councillors, Representatives from the Armed Forces, Distinguished Guests, Veterans, Ladies and Gentlemen, may I welcome you all today to this Flag Raising ceremony,” she said.
“Armed Forces Day celebrations begin today for Armed Forces Week with the Flag being raised on buildings and famous landmarks around the country.
“On behalf of the people of the Vale of Glamorgan, the flag raising ceremony shows our support for the Armed Forces of the UK who defended our Country, the United Kingdom, and its interests.
“Our support and thanks also to the Veterans who have served in Her Majesty’s Armed Forces with Armed Forces Day being a celebration of their continued role within the military community.
“I would also like to extend thanks to the Reservists, Cadets, Volunteers who also give of their time to serve in the Reserve Forces and support the Armed Forces.
“Always in our hearts the bravery of our armed forces and those who lost their lives for our tomorrows.”
The Armed Forces Flag will be flown for the week leading up to Armed Forces Day on Saturday 26th June, 2021.
Due to Covid restrictions, the event was not open to the public but was broadcast live on the Council’s Facebook page.