Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 11 Mis Mehefin 2021
Bro Morgannwg
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yr arian ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2022, mae Cynllun Atal ac Ymateb Caerdydd a'r Fro yn egluro’r ffyrdd o weithio ar gyfer cam nesaf yr ymateb i’r pandemig. Mae'r cynllun yn manylu ar sut y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn parhau i weithio gyda'i gilydd i reoli'r risgiau mwyaf o heintiau Covid-19 yn y rhanbarth eto, megis amrywiolion sy'n peri pryder a theithio rhyngwladol. Mae'n adeiladu ar fodel gwasanaeth a redir yn lleol, sydd wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers mis Mehefin 2020, ac y dangoswyd ei fod yn effeithiol o ran lleihau lledaeniad Covid-19. Mae hefyd yn nodi'r sectorau hynny y bydd tîm o swyddogion olrhain cysylltiadau yn gweithredu ynddynt. Mae'r rhain yn cynnwys ysgolion, lleoliadau gofal plant, colegau a phrifysgolion. Bydd yr un tîm hefyd yn cefnogi gwaith ymchwilio i glystyrau ac achosion o bryder.
Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: "Mae gwaith y gwasanaeth yn ei flwyddyn gyntaf wedi bod yn anhygoel. Yn ystod 2020 cynhaliwyd dros 200,000 o brofion coronafeirws yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. "Gwnaeth blaenoriaethu staff ysgolion a gofal iechyd ar adegau allweddol yn ystod y pandemig alluogi'r sectorau hanfodol hyn i barhau i weithio a sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael y gofal a'r cymorth oedd eu hangen arnynt. Hefyd gwnaeth defnyddio canolfannau profi cymunedol dros dro a chyfleusterau symudol helpu i reoli achosion ac i atal lledaeniad y feirws. "Nawr rydym yn edrych tua'r dyfodol ac at ddarparu gwasanaeth sydd â’r nod o gadw nifer yr achosion mor isel â phosibl, wrth i’r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu codi ac wrth i bobl ddychwelyd i wneud y pethau maen nhw'n eu mwynhau. "Mae'r gwasanaeth bob amser wedi bod â chylch gwaith ehangach na dim ond olrhain cysylltiadau ac yn y misoedd diwethaf mae wedi helpu gyda’r broses bwysig o gyflwyno'r brechlyn. Mae rhai o'r ymgynghorwyr hynny a roddodd gyngor yn y gorffennol ar brofion a hunanynysu ac a helpodd i gael cymorth ychwanegol i'r rheiny a oedd fwyaf agored i niwed bellach hefyd yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer y rhaglen frechu torfol. Mewn mannau eraill, mae gennym dimau sy'n gweithio i ymgysylltu â'r rheiny mewn cymunedau nad yw llawer o’r bobl yno’n manteisio ar y brechlyn."
Cynllun Atal ac Ymateb