Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 02 Mis Mehefin 2021
Bro Morgannwg
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal dwy sesiwn galw heibio sy'n cynnig mân atgyweiriadau a gwiriadau diogelwch beics fel rhan o Wythnos y Beic. Gall beicwyr ddod â'u beiciau i Barc Gwledig Cosmeston rhwng 10am ac 1pm ddydd Mercher neu i Ynys y Barri rhwng 2pm a 5pm i gael y gwasanaeth am ddim, a gynhelir gan DR Bike. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i iechyd a lles trigolion a'i ymgyrch i annog ymddygiadau mwy ecogyfeillgar. Y llynedd, cafodd Prosiect Sero ei lansio, sef addewid i ddileu allyriadau carbon y Cyngor yn llwyr erbyn 2030. Mae amrywiaeth o lwybrau beicio ar gael drwy’r Fro, gan gynnwys rhwydweithiau o amgylch y Barri, y Bont-faen, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Penarth, y Rhws, Sain Tathan a Sili.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae Wythnos y Beic yn gyfle gwych i chwythu’r llwch oddi ar yr hen geffyl haearn a mynd ag ef allan am dro. Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael i bobl eu mwynhau dros y saith niwrnod. "Mae beicio yn llesol i’n hiechyd corfforol a meddyliol ac mae hefyd yn dda i'r blaned. "Fel Cyngor, rydym yn ymrwymo i ostwng allyriadau carbon dros y blynyddoedd nesaf ac mae newid eich car am feic wrth fynd ar gyfer teithiau penodol yn ffordd syml o gyflawni hynny."
Mae astudiaethau’n awgrymu bod pobl sy’n beicio'n rheolaidd fel oedolyn yn mwynhau lefel o ffitrwydd sy'n cyfateb i rywun 10 mlynedd yn iau. Mae Wythnos y Beic, a gyflwynir bob blwyddyn gan Cycling UK, yn annog chwarter miliwn o bobl i ymuno mewn digwyddiadau, i ailfeddwl am eu teithiau bob dydd a newid i feicio er mwyn mynd o gwmpas y lle. Eleni mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y saith niwrnod, gan gynnwys Taith Feicio Fwyaf y Byd a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd neu i roi cynnig ar her newydd. Ddydd Sul, bydd Taith Feicio Fwyaf y Byd yn ceisio cael cymaint o bobl â phosibl ar eu beics ar yr un diwrnod. Gall y daith fod o unrhyw hyd, yn unrhyw le ac ar unrhyw amser a gallwch ddefnyddio unrhyw fath o feic. Y cyfan mae ei angen ei wneud yw cofnodi’r daith ar wefan Cycling UK www.cyclinguk.org