Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn ceisio cael arian gan Lywodraeth y DU

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi troi ei sylw at y rownd nesaf o geisiadau ar gyfer Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU mewn ymdrech i sicrhau buddsoddiad o £20 miliwn ar gyfer Glannau'r Barri.

 

  • Dydd Mercher, 30 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Ar ôl ymgynghori â Llywodraeth y DU a phroses arfarnu prosiect lawn, ystyrir mai dyna'r dull sydd fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus.


Bydd ceisiadau ar gyfer y cylch ariannu nesaf yn agor ddiwedd y flwyddyn hon neu ddechrau 2022.


O dan delerau cyllid Llywodraeth y DU, bydd gan brosiectau sy'n barod i'w cyflawni fantais a bydd y Cyngor yn ceisio datblygu strategaeth sy'n rhoi ei gais yn y sefyllfa gorau posibl.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Rydym yn benderfynol o gyflwyno achos mor gryf â phosibl dros gyllid a chyflwyno ein cais ar adeg pan mae'n fwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus. Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth y DU, ymddengys mai'r dull mwyaf synhwyrol yw aros tua chwe mis am y cylch ariannu nesaf. Rwy’n obeithiol bod Llywodraeth y DU yn rhannu ein hyder yn nyfodol y Barri.


“Dros y 20 mlynedd diwethaf, mae siopau, bwytai a llawer o dai wedi’u datblygu yn ardal y Glannau. Fel Cyngor rydym bellach am fynd â'r ardal i'r lefel nesaf drwy ei chysylltu'n well â chymunedau'r Barri a datgloi potensial tir cyflogaeth a hamdden.


"Rwy'n credu bod gan y Barri achos grymus dros gael arian y gronfa hon a byddwn yn dangos hynny’n glir. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda'n AS lleol sy'n cefnogi ein penderfyniad i gyflwyno cais ar gyfer ardal y Barri. Rydym am sicrhau bod cymunedau'r Barri wedi'u cysylltu'n well â'r glannau a bod tir cyflogaeth yn cael ei ddatgloi i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, bydd hwn yn gynnig ar gyfer buddsoddi mewn swyddi."

Mae'r Cyngor hefyd wedi bod yn paratoi cais ar gyfer y Gronfa Adnewyddu Cymunedol ar wahân, sy'n dod i gyfanswm o fwy nag £1 filiwn.


Mae hwn wedi'i gynllunio i helpu i gefnogi prosiectau a arweinir gan y gymuned a'r Cyngor y gellir eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol hon.  


Mae'r Cyngor yn disgwyl clywed yn ystod yr wythnosau nesaf a yw wedi bod yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid Adnewyddu Cymunedol, yn dilyn ei gyflwyniad i Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf.