Y Cyngor yn nodi Diwrnod Windrush
Nododd Cyngor Bro Morgannwg Ddiwrnod Windrush gyda seremoni Codi Baner y Gymanwlad yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri.
Wedi'i gyflwyno yn 2018, mae'r achlysur yn dathlu dyfodiad y genhedlaeth gyntaf o ymfudwyr Caribïaidd ar fwrdd yr SS Empire Windrush yn Tilbury Docks yn Essex.
Er iddynt gael eu gwahodd i'r wlad hon gan Lywodraeth y DU i helpu i ailadeiladu Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer yn wynebu gelyniaeth a gwahaniaethu.
Diben Diwrnod Windrush yw dathlu’r arloeswyr a’u disgynyddion, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sefydlu beth y mae'n ei olygu i fod yn Brydeinig yn y gymdeithas amlddiwylliannol sydd ohoni heddiw.
Bob blwyddyn, ar 23 Mehefin neu tua’r adeg honno, cynhelir gweithgareddau, megis perfformiadau dawns, arddangosfeydd, sgyrsiau a thrafodaethau, ledled y DU.
Mae'r diwrnod yn ein helpu i herio hiliaeth, rhagfarn a gwahaniaethu, yn ogystal â dathlu cwmnïaeth a chymuned.

TCysgodfan Gorllewinol Ynys y Barri a thwnnel Hood Road y dref yn cael eu goleuo yn lliwiau'r Gymanwlad.
Mae'r Cyngor hefyd yn annog pobl i rannu eu straeon am Windrush drwy ei sianeli cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio social@valeofglamorgan.gov.uk.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n bwysig dathlu cyfraniad Cenhedlaeth Windrush a wnaeth gymaint o waith pwysig yn y wlad hon.
"Mae angen i ni hefyd gadw mewn cof y sgandal mwy diweddar mewn cysylltiad â Windrush, pan ofynnodd Llywodraeth y DU i bobl gyflwyno gwaith papur i brofi bod ganddynt yr hawl i aros yn y DU.
"Roedd hyn bron yn amhosibl i lawer gan naill ai nad oeddent wedi cael dogfennau yn y lle cyntaf neu am fod y llywodraeth wedi dinistrio ei chofnodion ei hun ac wedi rhoi'r cyfrifoldeb ar bobl i brofi eu hawl i fod yma."
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir yn www.windrushday.org.uk, tra bod straeon am y Genhedlaeth Windrush a ymgartrefodd yng Nghymru ar gael yn www.racecouncilcymru.org.uk
Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru hefyd yn sgrinio Just ah likkle piece of Jamaica inna Port Talbot, ffilm emosiynol a chalonogol 40 munud o hyd sy'n dathlu straeon personol y bobl hŷn o Jamaica a ymgartrefodd ym Mhort Talbot yn y 1950au a'r 60au.
Dilynir y ffilm gan sesiwn Holi ac Ateb byw gyda'r cyfarwyddwyr, Faith Walker a Tracy Pallant, a Veronica Byrd sy'n ymddangos yn y ffilm.