Cyngor yn egluro ei safbwynt ar barcio ceir
Cyn bo hir, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno taliadau parcio ceir mewn dau ganol tref a'i barciau gwledig mewn ymdrech i wneud y ddarpariaeth hon yn fwy cynaliadwy.
Bydd angen talu i barcio cerbyd ym meysydd parcio Parciau Gwledig Porthceri a Cosmeston, yn Wyndham Street yn y Barri ac wrth Neuadd y Dref yn y Bont-faen.
Mae hysbysiadau cyfreithiol sy'n rhoi gwybod am y newidiadau sydd ar ddod wedi'u cyhoeddi, er na fydd y Cyngor yn eu gorfodi nes bod Cymru ar Lefel Rhybudd Un Covid-19.
Mae cost i weithredu'r meysydd parcio hyn, y mae llawer ohonynt yn cael eu defnyddio gan ymwelwyr o'r tu allan i'r Fro, ac mae'r system hon yn cynnig ffordd o dalu am y gwaith o’u cynnal a’u cadw.
Bydd parcio ceir mewn parciau gwledig yn costio £1 am hyd at ddwy awr, £2 am hyd at bedair awr a £4 drwy'r dydd, tra y bydd hefyd yn bosibl prynu trwyddedau chwech a 12 mis.
Ni fydd angen talu yn Cosmeston nes bod cynllun parcio i breswylwyr wedi'i roi ar waith mewn strydoedd cyfagos i fynd i'r afael â phobl sy’n parcio mewn mannau amhriodol.
Bydd modd parcio am ddim am ddwy awr yn Wyndham Street yn y Barri ac wrth Neuadd y Dref yn y Bont-faen a bydd yn costio £4 i barcio am hyd at 4 awr a £6 i barcio drwy’r dydd. Mae deiliaid bathodynnau glas wedi'u heithrio.
Mae tocynnau parcio tymhorol ar gyfer cyrchfannau arfordirol hefyd yn cael eu cyflwyno.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae cyflwyno taliadau ym meysydd parcio’r lleoliadau hyn wedi bod yn destun ymgysylltu, ymgynghori a thrafod hir.
Cymeradwywyd y cynigion yn dilyn proses graffu gan Aelodau Etholedig y Cyngor, a gytunodd arnynt yn y ddau Gyfarfod Craffu trawsbleidiol.
"Ein prif nod yw rheoli parcio'n well yn ein cyrchfannau a'n parciau gwledig ac yng nghanol ein trefi. Mae cost i wneud hynny ac i'w cynnal a'u cadw. Defnyddir ein parciau gwledig uchel eu parch gan lawer o bobl o'r tu allan i Fro Morgannwg, yn ogystal â thrigolion, ac mae’n rhesymol y dylai ymwelwyr helpu i dalu am y gwaith o’u cynnal a'u cadw a bydd yr holl arian a geir yn cael ei ddefnyddio at y diben hwn.
"Mae parcio am ddim ar gael o hyd yng nghanol trefi'r Barri a'r Bont-faen ar y stryd ac oddi ar y stryd, a bwriad cyflwyno taliadau parcio ym maes parcio Wyndham Street, y Barri a Neuadd y Dref, y Bont-faen yw cynyddu trosiant lleoedd, a ddylai helpu busnesau lleol."