Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 11 Mis Mehefin 2021
Bro Morgannwg
Mae'r Cyngor yn bwriadu ailddatblygu dau leoliad allweddol yng nghanol y Barri.
Gallai Safle Cyfansawdd Pont Gladstone ddod yn gartref i ganolfan feddygol newydd, gan ddisodli’r Clinig Broad Street presennol, yn ogystal â fflatiau ar gyfer pobl hŷn tebyg i gyfleuster gofal ychwanegol Golau Caredig gerllaw.
Yna caiff y Clinig Broad Street presennol ei ailddatblygu'n floc o fflatiau fforddiadwy na fydd ganddynt feini prawf oedran ond a fydd yn darparu cartrefi newydd i deuluoedd lleol.
Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae gan y cynigion hyn y potensial i drawsnewid pen gorllewinol canol tref y Barri. "Rydym eisoes wedi gweld yr effaith y mae datblygiad Golau Caredig wedi'i chael nid yn unig ar fywydau'r bobl hynny sy'n byw yn y fflatiau ond ar naws y rhan honno o'r dref. "Nod y cynigion yw adeiladu ar hyn tra hefyd yn darparu canolfan iechyd fodern newydd a thai fforddiadwy y mae mawr eu hangen. Bydd yr elfen dai yn darparu llety i bobl yng nghanol y gymuned, yn agos at siopau lleol a chyfleusterau eraill, a chyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog. "Fel gyda'n holl brosiectau adfywio bydd y cynllun hwn yn gweld pwyslais ar ddylunio o safon uchel ac ymdeimlad cryf o le, ac wrth gwrs bydd yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol."
Dywedodd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae gan y cynigion hyn y potensial i drawsnewid pen gorllewinol canol tref y Barri.
"Rydym eisoes wedi gweld yr effaith y mae datblygiad Golau Caredig wedi'i chael nid yn unig ar fywydau'r bobl hynny sy'n byw yn y fflatiau ond ar naws y rhan honno o'r dref.
"Nod y cynigion yw adeiladu ar hyn tra hefyd yn darparu canolfan iechyd fodern newydd a thai fforddiadwy y mae mawr eu hangen. Bydd yr elfen dai yn darparu llety i bobl yng nghanol y gymuned, yn agos at siopau lleol a chyfleusterau eraill, a chyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog.
"Fel gyda'n holl brosiectau adfywio bydd y cynllun hwn yn gweld pwyslais ar ddylunio o safon uchel ac ymdeimlad cryf o le, ac wrth gwrs bydd yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol."
Mae dwy elfen y cynllun yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chyllid prosiect. Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chyda Llywodraeth Cymru.