Cost of Living Support Icon

 

Allech chi fod yn #ArwrNaturyFro?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ailagor y ceisiadau ar gyfer yr ymgyrch Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ddiweddar.

 

  • Dydd Iau, 17 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog pawb sy’n #ArwyryFro a grwpiau gwirfoddoli lleol i wneud cais am becyn natur am ddim i helpu i wella’r amgylchedd lleol yn rhan o #ProsiectSerorFro.
 
Yn rhan o Gynllun Her Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, rydym wedi ymrwymo i wella ein mannau gwyrdd.
 
Y llynedd, crëwyd dros 500 o fannau gwyrdd, neu eu hadfer a’u gwella. Bu hyn diolch i waith grwpiau cymunedol a bob math o sefydliadau - o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
 
Nawr, diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig cannoedd o becynnau natur am ddim.
 
Mae pob pecyn y talwyd amdano ymlaen llaw yn cynnwys planhigion brodorol, tŵls a deunyddiau eraill. Mae'r tîm yn ymdrin ag archebion a danfoniadau, a bydd eu swyddogion prosiect hyd yn oed yn darparu cymorth ar lawr gwlad.
 
Mae’r pecynnau mewn dau gategori:
 
Pecynnau cychwynnol ar gyfer grwpiau cymunedol neu wirfoddol sy'n awyddus i greu Gardd Bryfed Peillio, Gardd Ffrwythau a Pherlysiau, neu Ardd Drefol.
 
Pecynnau datblygu ar gyfer sefydliadau yn y gymuned sy'n barod i ymgymryd â phrosiect mwy ac adeiladu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt.
 
Yn 2021-22, rhoddir blaenoriaeth i brosiectau mewn ardaloedd trefol, difreintiedig heb fawr ddim mynediad, os o gwbl, at natur. Mae Cadwch Gymru'n Daclus hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau nad oes digon o gynrychiolaeth iddynt ledled Cymru.
 
Mae'n broses ymgeisio syml. Ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus, dewiswch eich pecyn, darllenwch drwy'r canllawiau, a lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais- https://www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/natur
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â thîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur CNC – e-bostiwch 

  • nature@keepwalestidy.cymru

 

Gwefan Cadwch Gymru'n Daclus