Cyngor Bro Morgannwg yn datgan argyfwng natur
Mae argyfwng natur wedi cael ei ddatgan gan Gyngor Bro Morgannwg mewn ymgais i ddiogelu bioamrywiaeth yn y sir.
Cytunwyd yn unfrydol ar y symudiad mewn cyfarfod Cyngor llawn ddydd Llun ac mae'n rhoi'r mater wrth wraidd penderfyniadau'r sefydliad.
Cyflwynwyd y cynnig gan y Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Adfywio ac Addysg, a'r Cynghorydd Neil Thomas, Aelod Ward St Awstin.
Wedi'i gysylltu'n agos â gwaith sy'n digwydd mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn 2019, mae hyn yn cydnabod y bygythiad y mae bywyd gwyllt yn ei wynebu oherwydd tymereddau cynyddol.
Dangosodd adroddiad arbennig ar gynhesu byd-eang a gyhoeddwyd gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ym mis Hydref 2018, pe bai'r tymheredd yn cynyddu 1.5 gradd Celsius yn unig, y byddai chwech y cant o bryfed, wyth y cant o blanhigion ac wyth y cant o greaduriaid asgwrn cefn yn cael eu colli.
Mae'r ffigurau hynny'n codi i 18, 16 ac wyth y cant yn y drefn honno pe bai’r byd ddwy radd yn gynhesach.
Canfu’r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yn 'Cyflwr Natur 2019' fod tua wyth y cant o'r rhywogaethau a geir yng Nghymru (523) dan fygythiad o ddiflannu o wledydd Prydain, bod 17 y cant (666) dan fygythiad o ddiflannu o Gymru a bod 73 wedi diflannu eisoes.
Dywedodd y Cynghorydd Burnett: "Mae newid yn yr hinsawdd yn her fyd-eang enfawr, un y mae'n rhaid i'r Cyngor a sefydliadau eraill ledled y byd geisio mynd i'r afael â hi.
"Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, rydym wedi dechrau cymryd camau i fynd i'r afael â'r broblem hon ac wedi lansio Prosiect Sero, ein cynllun i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
"Ond mae angen gwneud mwy, gyda sylw arbennig yn cael ei roi i'r bygythiad i fioamrywiaeth. Mae diogelu bioamrywiaeth yr un mor bwysig â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gall effaith yr ail olygu anghysondeb rhwng rhywogaethau a'r bwyd sydd ei angen arnynt. Er enghraifft, efallai na fydd y lindysyn, sydd ei angen ar y titw tomos las a’r titw mawr i fwydo eu cywion, ar gael ar yr adeg gywir o'r flwyddyn gan fod y dail y mae’r lindysyn yn bwydo arnynt wedi blodeuo naill ai'n rhy gynnar neu'n rhy hwyr.
"Dyna pam y gofynnais i'r Cyngor hefyd ddatgan argyfwng natur a rhoi cynlluniau penodol ar waith i ddiogelu ein bywyd gwyllt. Rydw i wrth fy modd ein bod bellach wedi ymrwymo i darged o ‘ddim colled net’ i fioamrywiaeth ym Mro Morgannwg."
Mae'r Cyngor eisoes yn bwriadu ymgysylltu â Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, sy'n anelu at sicrhau ‘dim colled net’ mewn bioamrywiaeth.
Bydd cynrychioliadau hefyd yn cael eu gwneud i lywodraethau Cymru a'r DU ar faterion sy'n ymwneud â'r mater hwn mewn ymdrech i sicrhau pwerau, adnoddau a chymorth technegol.
Bydd gwaith gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol hefyd yn parhau i ddatblygu a gweithredu dulliau arfer gorau a all ddiogelu bioamrywiaeth Cymru.
Ar lefel fwy lleol, bydd y Cyngor yn ymgysylltu â phartïon perthnasol i ddatblygu strategaeth a all ddiogelu amgylchedd naturiol y Sir a fydd hefyd o fudd i feysydd fel cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.