Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 29 Mis Gorffenaf 2021
Bro Morgannwg
Mae Sêr Gofal yn fenter a grëwyd i dynnu sylw at y gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl tra bod y wlad yng nghrafangau’r pandemig.
Ym mis Mehefin 2021, cafodd y Cyngor wahoddiad i enwebu'r gweithwyr gofal cyflogedig y teimlai y dylid eu cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol dros y 15 mis diwethaf.
Enwebwyd Jo, Julia a Jane i gyd yn y categori gofal plant, chwarae a gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Enwebwyd cyfanswm o 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru. Yna, gwnaeth panel o feirniaid ddewis deuddeg o Sêr Gofal yr oeddent yn credu eu bod yn haeddu cydnabyddiaeth am y gwaith ysbrydoledig roeddent wedi'i wneud. Ac o'r deuddeg hynny, mae tri yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg. Mwy nag unrhyw awdurdod lleol arall yng Nghymru.
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae hyn yn newyddion gwych – mae tair gwobr i Gyngor Bro Morgannwg yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Jo, Julia a Jane am y gydnabyddiaeth haeddiannol am eu cyfraniad hynod werthfawr drwy eu gwaith yn ystod y pandemig. "Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jo a Julia am eu hymroddiad i gefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd chwarae, yn enwedig y rhai sy'n elwa o gymorth ychwanegol. "Mae Jane hefyd wedi dangos gwerthoedd y Cyngor yn ei dull uchelgeisiol ac agored o gefnogi teuluoedd drwy gydol y pandemig ac mae'n gaffaeliad i'n tîm Blynyddoedd Cynnar".
Dywedodd y Cynghorydd Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae hyn yn newyddion gwych – mae tair gwobr i Gyngor Bro Morgannwg yn dipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Jo, Julia a Jane am y gydnabyddiaeth haeddiannol am eu cyfraniad hynod werthfawr drwy eu gwaith yn ystod y pandemig.
"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jo a Julia am eu hymroddiad i gefnogi plant a phobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd chwarae, yn enwedig y rhai sy'n elwa o gymorth ychwanegol.
"Mae Jane hefyd wedi dangos gwerthoedd y Cyngor yn ei dull uchelgeisiol ac agored o gefnogi teuluoedd drwy gydol y pandemig ac mae'n gaffaeliad i'n tîm Blynyddoedd Cynnar".
Gallwch ddarllen mwy am y Sêr Gofal hyn a'u gwaith ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.