Dros 3000 o bobl ifanc yn ymuno â’r gofrestr etholiadol yn 2021
Roedd hyn yn dilyn ymgyrch a gynhaliwyd gan dîm Cofrestru Etholiadol Cyngor Bro Morgannwg, Llywodraeth Cymru, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol - ERS Cymru - a'r Comisiwn Etholiadol.
Erbyn 19 Ebrill, roedd 3,239 o bobl ifanc 14-17 oed wedi cofrestru am y tro cyntaf ym Mro Morgannwg, ac roedd 1,969 ohonynt yn 16 a 17 oed ac felly'n gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 06 Mai.
Roedd yr ymgyrch yn ganlyniad i'r diwygiadau etholiadol a welodd yr oedran pleidleisio'n gostwng o 18 i 16 ar gyfer etholiad y Senedd a’r etholiadau llywodraeth leol, a phobl ifanc yn cael cofrestru o 14 oed.Fel rhan o'r ymgyrch, cynhaliodd tîm Cofrestru Etholiadol Cyngor Bro Morgannwg raffl cyn etholiad y Senedd.
Cafodd unrhyw bobl ifanc 14-17 oed a gofrestrodd i bleidleisio cyn y dyddiad cau eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill un o bum iPad. Dewiswyd yr enillwyr ar hap yr wythnos diwethaf a chyflwynwyd eu gwobrau iddynt.
Dyma nhw: Lilwen Evans ac Ella Bulmer o Ysgol Gyfun Bro Morgannwg, Mollie Coombes o Ysgol Uwchradd Pencoedtre, Charlotte Mazloom o Ysgol Uwchradd St Cyres a Benedict Griffin o Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Dywedodd pob disgybl eu bod i gyd am bleidleisio yn etholiad y Senedd a bod y raffl yn gymhelliant da i annog pobl ifanc i gofrestru. Roedd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer yno wrth i’r gwobrau gael eu rhoi.
Dywedodd:"Roedd nifer y bobl ifanc a gofrestrodd eleni yn anhygoel. Rydym yn falch o weld bod cymaint o bobl ifanc yn awyddus i ymwneud â democratiaeth a defnyddio eu pleidlais.
"Mae angen gwneud mwy i annog ac addysgu pobl ifanc am eu hawl, ac i roi gwybod iddynt am yr hyn i'w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio. Ymhlith yr adborth a gawsom oedd nad yw pobl ifanc yn siŵr beth i'w wneud mewn gorsaf bleidleisio, na beth yn union y maent yn pleidleisio drosto.
"Rwy'n gwybod bod ein tîm Cofrestru Etholiadol yn awyddus i ymweld ag ysgolion cyn etholiadau yn y dyfodol, ar ôl i gyfyngiadau Covid gael eu llacio, i roi cyflwyniadau ac i dywys pobl ifanc drwy'r broses."
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein mewn dim ond 5 munud. Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm ar 01446 729552 i ofyn am ffurflen, neu os oes gennych eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law, gallwch roi eich manylion dros y ffôn. Nid oes angen eich rhif yswiriant gwladol os ydych yn 14 neu'n 15 oed ac nad ydych wedi'i dderbyn eto.