Cost of Living Support Icon

 

Gosod system oleuo newydd ar barc sglefrio poblogaidd

MAE Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno system oleuo newydd ym Mharc Sglefrio Bryn y Don yn Ninas Powys sy'n golygu y gall defnyddwyr fwynhau'r cyfleuster am gyfnod hirach.

 

  • Dydd Llun, 19 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg

    Dinas Powys



Mae camerâu synhwyro symudiadau yn cael eu gosod, sy'n cynnau’r goleuadau pan fydd rhywun yn mynd i mewn i'r ardal ar ôl iddi dywyllu.


Yna, mae’r goleuadau'n diffodd yn awtomatig am 9pm.


Mae hyn yn caniatáu i sglefrio fwynhau'r parc gyda’r nos pan fyddai fel arall yn anniogel  ei ddefnyddio ac mae hefyd yn sicrhau nad yw'r goleuadau ymlaen pan fydd yn wag.


Yn ystod misoedd yr haf, pan fydd yn olau yn hwyrach, does dim angen y system.


Ond dylai gynnig hyd at bump awr mwy o amser sglefrio i ddefnyddwyr yn ystod y gaeaf.

 

brynydonMae'r system yn cael ei gweithredu ar ôl i ymgynghoriad gyda’r gymuned ddangos cefnogaeth i'r syniad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r parc sglefrio hwn yn cynnig cyfle i ddefnyddwyr wneud ymarfer corff mewn amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli'n dda.


"Rwy'n gwybod faint mae’r hen a'r ifanc yn y gymuned sglefrio yn ei werthfawrogi, ac mae annog a chefnogi ffordd actif o fyw yn bwysig i'r Cyngor"


"Mae gosod y system oleuo hon yn golygu y gall y parc sglefrio aros ar agor yn hwyrach yn ystod y misoedd tywyllach, gan gynnig mwy o gyfle i'r gymuned leol ei ddefnyddio. 


"Dim ond pan fydd rhywun y tu mewn i'r cyfleuster y mae'r goleuadau'n cael eu hactifadu felly nid oes unrhyw ynni'n cael ei wastraffu pan fydd yn wag."

Dywedodd James Carnie,  trefnydd Clwb Sglef, clwb sglefrfyrddio i blant: "Yn ystod pandemig Covid-19, mae parciau sglefrio dan do wedi  gorfod cau nifer o weithiau a oedd wir yn cyfyngu ar y cyfleoedd oedd gan ein pobl ifanc i fwynhau eu camp yn ystod misoedd y gaeaf. 


"Bydd cael y goleuadau wedi eu cynnau ym Mryn-y-Don yn ystod y misoedd tywyll yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr y parc sglefrio wneud ymarfer corff yn ystod nosweithiau sych.


"Mae rhai parciau gwych â llifoleuadau ymhellach i ffwrdd mewn lleoedd fel Cwmbrân, Henffordd a Hwlffordd, lle mae awyrgylch gwych o sglefrio dan lifoleuadau yn ystod y nosweithiau tywyll.


"Rydym yn gobeithio y gallwn greu'r un bywiogrwydd yn Ninas Powys a manteisio i'r eithaf ar y gofod cymunedol hwn."