Trwyddedau preswylwyr am ddim ar gael wrth i daliadau parcio ceir gael eu cyflwyno i ganol trefis
Mae trigolion strydoedd dethol yn cael eu hannog i wneud cais am drwyddedau parcio am ddim wrth i Gyngor Bro Morgannwg geisio rheoli'r gwaith o gyflwyno taliadau parcio i ddwy ganol tref ar 1 Medi.
Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at y rhai sy'n byw mewn ardaloedd yr effeithir arnynt, gan esbonio sut y gellir cael trwyddedau a pham mai dim ond parthau parcio preswylwyr yn unig sy'n cael eu gweithredu.
Fel y nodir yn y llythyr, mae trwyddedau ar gael drwy fynd i wefan y Cyngor neu ffonio 01446 700111 ac mae'r parthau wedi'u cynllunio i amddiffyn preswylwyr rhag cael pobl eraill yn parcio ar eu strydoedd.
Byddant yn helpu i sicrhau nad yw ymwelwyr yn gadael eu ceir ar strydoedd dethol yn y Bont-faen pan gyflwynir taliadau parcio ym maes parcio Neuadd y Dref o fis Medi.
Mae taliadau hefyd yn cael eu cyflwyno yn Wyndham Street yn y Barri, lle mae rheolaethau preswyl eisoes ar waith ar ffyrdd cyfagos, ar yr un pryd.
Fodd bynnag, daiff taliadau i rym yn y ddau leoliad dim ond os bydd Cymru’n symud i’r lefel rhybuddio llinell sylfaen newydd fel rhan o adolygiadau parhaus Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor gynlluniau tebyg i gyflwyno parthau parcio i breswylwyr yn unig mewn ardaloedd o Ynys y Barri, y Cnap, Cosmeston ac Aberogwr i fynd i'r afael ag achosion eraill o bobl yn parcio ar strydoedd preswylwyr.
Bydd gorfodi'r parthau parcio preswyl yn dechrau o 19 Gorffennaf, gyda chynllun y Bont-faen yn destun gorfodaeth yn ddiweddarach yn y mis.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Bydd y mesurau hyn yn helpu i ddiogelu trigolion lleol rhag cael pobl eraill yn parcio ar eu strydoedd yn ein hardaloedd arfordirol prysuraf ac ar strydoedd yn agos at Faes Parcio Neuadd y Dref yn y Bont-faen. Bydd taliadau'n cael eu cyflwyno i'r maes parcio hwnnw a Wyndham Street yn y Barri ddechrau mis Medi.
"Mae'r taliadau wedi'u cynllunio i reoli parcio ceir yn well yng nghanol trefi'r Bont-faen a'r Barri. Dylent arwain at drosiant cynyddol o leoedd, gan roi hwb i fusnesau lleol. Mae parcio am ddim ar gael o hyd yn y lleoliadau hyn ar y stryd ac oddi ar y stryd.
"Anogir preswylwyr i wneud cais am drwydded ar gyfer pob cerbyd sydd wedi'i gofrestru i gyfeiriad cyn cyflwyno'r rheolaethau parcio hyn. Maent am ddim ac mae gan bob eiddo hawl hefyd i gael un drwydded i ymwelwyr."
Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno tocynnau tymor ar gyfer ymwelwyr rheolaidd â'n parciau gwledig a'n cyrchfannau arfordirol a gellir gwneud cais am y rhain hefyd drwy'r wefan.
Pris y rhain yw £50 am chwe mis a £100 am 12 mis ar gyfer meysydd parcio y codir tâl arnynt mewn ardaloedd arfordirol, megis Ynys y Barri ac Aberogwr.
Byddant yn costio £30 am chwe mis a £50 am 12 mis ym mharciau gwledig Cosmeston a Phorthceri.
Gellir defnyddio'r tocynnau tymor ar gyfer ardaloedd arfordirol mewn unrhyw faes parcio arfordirol y codir tâl amdano yn y Fro a gellir defnyddio tocyn tymor y parc gwledig yn y naill barc gwledig neu'r llall.