Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 21 Mis Ionawr 2021
Bro Morgannwg
Penarth
Gwahoddir partïon â diddordeb i nodi eu cynigion ar gyfer defnyddio'r adeilad poblogaidd hwn yn y dyfodol a rhai o'r tiroedd drwy gais tendro ffurfiol. Mae pecynnau tendro ar gael gan y Cyngor ar gais.
Roedd y tŷ a’i erddi, sydd mewn lleoliad gwych yn edrych dros Bier eiconig Penarth a Môr Hafren, wedi'u gosod i Gyngor Tref Penarth yn flaenorol cyn dychwelyd i reolaeth Cyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2020.
Yn y gorffennol, defnyddiwyd yr Eiddo fel swyddfeydd, lleoliad ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill. Mae'r Cyngor yn chwilio am gynigion uchelgeisiol a chyffrous sy'n adlewyrchu pwysigrwydd hanesyddol lleol yr adeilad yn llawn ac yn gadael i'r Cyngor barhau i ddefnyddio rhan o'r gerddi at ddefnydd y cyhoedd.
Ar ôl cwblhau’r broses farchnata, bydd y Cyngor yn nodi cynigydd a ffefrir a bydd unrhyw ddefnyddiau newydd a gynigir yn ddarostyngedig i’r prosesau ymgynghori a chynllunio arferol.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae’r Cymin yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Penarth sydd wedi’i lleoli mewn man anhygoel. Mae sicrhau ei fod ar gael i'w brydlesu yn gyfle gwych a chyffrous i adfywio'r lleoliad er budd y gymuned leol ac ehangach. "Dyma gyfle i ysgrifennu'r bennod nesaf yn hanes cyfareddol y Cymin. "Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd ein cynlluniau'n parhau i gynnig mynediad i'r cyhoedd i lawer o'r tiroedd gan fy mod yn gwybod bod hwn yn amwynder lleol gwerthfawr i’r ardal."
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae’r Cymin yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Penarth sydd wedi’i lleoli mewn man anhygoel. Mae sicrhau ei fod ar gael i'w brydlesu yn gyfle gwych a chyffrous i adfywio'r lleoliad er budd y gymuned leol ac ehangach.
"Dyma gyfle i ysgrifennu'r bennod nesaf yn hanes cyfareddol y Cymin.
"Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd ein cynlluniau'n parhau i gynnig mynediad i'r cyhoedd i lawer o'r tiroedd gan fy mod yn gwybod bod hwn yn amwynder lleol gwerthfawr i’r ardal."