Cost of Living Support Icon

 

Cynllun plannu coed yn cychwyn ym Mhenarth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau rhaglen waith i blannu dros 100 o goed ar draws naw man agored gwyrdd ym Mhenarth.

 

  • Dydd Gwener, 29 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Mewn cam i gynyddu bioamrywiaeth ar draws y Sir a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae adran parciau'r Cyngor wedi ymrwymo i'r cynllun i blannu coed ar draws y parciau canlynol:

 

Phase 1 trees at CRD 2021
  • Archer Terrace;
  • Parc Cliff Top;
  • Tir Hamdden Cogan;
  • Golden Gates;
  • Sgwâr Plassey;
  • Queens Road;
  • Stanwell Crescent;
  • Y Pant; a
  • Pharc Wordsworth. 

Mae'r cynllun hwn yn un enghraifft fach o ymrwymiadau a wnaed gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd fel rhan o Gynllun Gweithredu ehangach ar y Newid yn yr Hinsawdd.

 

Ymgynghorwyd â sefydliadau cymunedol lleol gan gynnwys Cymdeithas Ddinesig Penarth, Fforwm Coed Penarth, GPG Penarth Greening, a grwpiau cyfeillion y parciau wrth gynllunio'r prosiect hwn. 

 

Dechreuodd y gwaith plannu yr wythnos hon ym Mharc Golden Gates gyda 15 o goed ceirios o dri math gwahanol yn cael eu plannu.

 

Yn siarad am y cynllun, dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth

‘Rwy'n croesawu'r cynlluniau cyffrous hyn sy'n rhan o raglen ehangach i leihau lefelau CO2 a darparu cynefinoedd ychwanegol i fywyd gwyllt. Gobeithio y bydd trigolion Penarth yn falch o weld y canopi coed yn eu mannau agored gwyrdd yn gwella.’

 

Dywedodd Cyfeillion Parc Golden Gates: 'Mae'n wych gweld yr holl goed newydd yn y parc. Allwn ni ddim aros i weld y dail yn tyfu yn y Gwanwyn. Maent yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr ac rwy'n siŵr y bydd pob ymwelydd â'r parc yn eu gwerthfawrogi ac yn mwynhau'r cysgod y byddant yn ei ddarparu yn yr haf.