Cyngor yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost eleni gyda chyfres o arddangosfeydd goleuadau a negeseuon ar-lein.
Mae Gwasanaeth Datblygu Celfyddydau'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i annog y gymuned leol i gymryd rhan mewn prosiect cymunedol i ymgysylltu â'r celfyddydau. Dyfeisiwyd gweithdy arbennig wedi'i anelu at ddisgyblion ysgol gan yr artist a'r athro gwrthdaro, Nicola Tucker.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei gynnal ar 27 Ionawr – sef y dyddiad y cafodd gwersylloedd Auschwitz-Birkenau eu rhyddhau.
Bob blwyddyn ledled y DU, mae miloedd o bobl yn dod at ei gilydd i ddysgu mwy am hil-laddiad yn y gorffennol a chymryd camau i greu dyfodol mwy diogel.
Y llynedd, 75 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz, cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn yr Oriel Gelf Ganolog i gyflwyno arddangosfa ryngweithiol o wybodaeth hanesyddol a gwaith celf ar y pwnc.
Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws, bydd yn rhaid talu teyrnged eleni mewn ffordd wahanol.
Bydd Neuadd y Dref yn y Barri, lle mae'r Oriel Gelf Ganolog, yn cael ei goleuo mewn porffor, sef lliwiau Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost; felly hefyd y gysgodfa orllewinol ar Ynys y Barri a Swyddfeydd y Dociau.
Byddwch yn olau yn y tywyllwch yw'r thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, sy'n alwad i bawb sy'n nodi Diwrnod Cofio'r Holocost fyfyrio ynghylch y dyfnderoedd y gall pobl suddo iddynt ond hefyd i feddwl am ffyrdd y gallwch 'fod yn olau' fel gwrthsefyll, gweithredoedd o undod, achub, a goleuo gwirioneddau.
Cynhelir seremoni goffa genedlaethol am 7pm ddydd Mercher 27 Ionawr, a gall unrhyw un sy'n dymuno gweld hyn gofrestru ar-lein yn: https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/marking-holocaust-memorial-day-online/
Bydd Arweinydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor yn gwneud y datganiad o ymrwymiad, a baratowyd gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Er na allwn goffáu'r digwyddiad hwn yn y ffordd y byddem fel arfer, trwy ymgynnull yn yr Oriel Gelf Ganolog ar gyfer arddangosfa arbennig, roedd yn bwysig i ni fel awdurdod lleol oleuo tirnodau lleol a dangos ein cefnogaeth i'r coffâd blynyddol hwn.
"Er ein bod yng nghanol pandemig byd-eang, mae'n bwysig i ni i gyd oedi a myfyrio ynghylch rhan o hanes na ddylem fyth ei hanghofio."