Bro Morgannwg yn lansio Cynnig Gofal Plant ar gyfer 2021
Gwahoddir rhieni sy'n gweithio ac sydd â phlant rhwng tair a phedair oed i wneud cais am gynnig gofal plant 30 awr Llywodraeth Cymru.
Ym Mro Morgannwg, gall y Cynnig Gofal Plant ariannu hyd at 17.5 awr yr wythnos o ofal plant am hyd at 48 wythnos o'r flwyddyn.
Yn ystod gwyliau’r ysgol, mae’r ddarpariaeth yn cynyddu i 30 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos sef tair wythnos fesul tymor. Mae'r cynnig yn agored i rieni sy'n gweithio ac sydd angen help gyda chostau gofal plant.
Rhaid i'w plentyn fod yn dair oed cyn 31 Mawrth 2021. Mae'r cyllid hwn ar gael nes bydd y plentyn yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.
Gall rhieni ddefnyddio'r cyllid mewn unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd wedi cofrestru â’r Cynnig Gofal Plant.
Er enghraifft, mewn meithrinfa ddydd, gyda gwarchodwr plant neu gyda chylch chwarae.Rhaid i rieni fod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac yn byw'n barhaol ym Mro Morgannwg.
Os yw hwn yn deulu dau riant yna rhaid i’r ddau riant fod yn gweithio, neu’r rhiant sengl mewn teulu un rhiant.
Dywedodd y Cynghorydd. Ben Gray, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Roedd 2020 yn flwyddyn anodd a gwyddom fod llawer o rieni a gwarcheidwaid sy'n gweithio yng Nghymru yn wynebu'r her ychwanegol o jyglo gofal plant, gwaith ac addysg gartref.
"Nawr bod y lleoliad Gofal Plant wedi ail-agor, rydym yn annog rhieni sy'n gweithio i wneud cais am y Cynnig.
"Mae'r ddarpariaeth eisoes wedi helpu rhieni a gwarcheidwaid o bob rhan o Gymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Mae eraill yn manteisio ar gyfleoedd prentisiaeth i ddatblygu eu sgiliau, newid eu swydd neu hyd yn oed ddechrau eu busnes eu hunain."
Bydd ceisiadau tymor yr haf yn agor ar 05 Chwefror, 2021. Bydd rhieni sy'n gwneud cais ac yn anfon yr holl dystiolaeth gywir erbyn 05 Mawrth yn derbyn eu cyllid o 12 Ebrill, 2021.
Gall rhieni barhau i wneud cais ar ôl 05 Mawrth, ond efallai na fydd cyllid yn cael ei warantu ar gyfer 12 Ebrill ac ni ellir ei ôl-dyddio.
Gall ceisiadau Tymor yr Hydref 2021, ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Awst 2018, gael eu cyflwyno o 04 Mehefin 2021, gyda dyddiad dechrau 02 Medi 2021.
I rieni 25 oed neu'n hŷn, rhaid iddynt fod yn ennill o leiaf £139.52 yr wythnos, neu £131.20 os ydynt yn 20-24 oed.
Bydd angen i rieni (neu riant) ddarparu tri mis o slipiau cyflog neu eu ffurflen hunanasesu, (os ydynt yn hunangyflogedig), eu llythyr treth gyngor diweddaraf a thystysgrif geni'r plentyn ar gyfer y cais ar-lein.
Gwneud cais ar-lein
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd helpu rhieni i ddod o hyd i ofal plant wedi'i deilwra i'w hanghenion.