Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 22 Mis Chwefror 2021
Bro Morgannwg
Mabwysiadodd 18 o gleientiaid atgyfeirio, sydd i gyd yn byw gyda chyflyrau meddygol gwahanol yr enw 'The Wall Nuts,' gan gerdded cyfanswm o 5,500 milltir rhyngddynt rhwng mis Hydref a mis Ionawr.
Yn ystod y 14 wythnos, cwblhawyd tua 400 milltir yr wythnos a chofrestrwyd ychydig dros 11 miliwn o gamau, sef 80,000 o gamau ar gyfartaledd, yr wythnos, fesul unigolyn.Roedd yr her yn helpu defnyddwyr i ddal ati yn ystod y pandemig, tra hefyd yn gwella lefelau ffitrwydd a lles meddyliol.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Roedd hon yn fenter wych ar ran y tîm, a oedd yn gwella lles corfforol a meddyliol ei ddefnyddwyr yn sylweddol. Roedd yr her yn llawn cyfeillgarwch, cystadleuaeth ac agosrwydd, er bod pawb filltiroedd ar wahân, tra hefyd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac atebolrwydd. "Mae’r tîm wedi ymrwymo i helpu pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd i gynnwys ymarfer corff yn eu bywydau bob dydd. Mae'r cynllun wedi'i ohirio ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, fodd bynnag, mae'r tîm yn parhau i gefnogi'r timau drwy ddosbarthiadau a rhaglenni rhithwir. Maent yn gobeithio ailddechrau yn y dyfodol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Roedd hon yn fenter wych ar ran y tîm, a oedd yn gwella lles corfforol a meddyliol ei ddefnyddwyr yn sylweddol. Roedd yr her yn llawn cyfeillgarwch, cystadleuaeth ac agosrwydd, er bod pawb filltiroedd ar wahân, tra hefyd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac atebolrwydd.
"Mae’r tîm wedi ymrwymo i helpu pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd i gynnwys ymarfer corff yn eu bywydau bob dydd. Mae'r cynllun wedi'i ohirio ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, fodd bynnag, mae'r tîm yn parhau i gefnogi'r timau drwy ddosbarthiadau a rhaglenni rhithwir. Maent yn gobeithio ailddechrau yn y dyfodol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.