Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 19 Mis Chwefror 2021
Bro Morgannwg
Cadarnhawyd y bydd y brif ffordd sy’n rhedeg trwy’r pentref yn treialu’r cyfyngiad cyflymder a fydd ar waith o’r adeg y bydd cerbydau’n mynd i mewn i’r pentref tan yr adeg y byddant yn ei adael.
Bydd arwyddion sy’n nodi’r terfyn newydd ar ddangos wrth i yrwyr agosáu at Saint-y-brid, gydag arwyddion llai ychwanegol yn cael eu gosod ar hyd y ffordd.
Penderfynwyd treialu’r terfyn hwn yma ar ôl i drigolion fynegi pryderon am lefel y traffig sy’n teithio trwy’r pentref, yn enwedig pa mor aml y mae Cerbydau Nwyddau Trwm yn defnyddio’r llwybr.
Awgrymodd sylwadau a roddwyd i’r Cyngor ac adborth o ymarfer ymgynghori eu bod am i’r terfyn 30mya cyfredol gael ei ostwng.
Fel un o nifer o gynlluniau peilot ledled Cymru, caiff data o'r cynllun ei gasglu cyn i gyfyngiadau 20mya gael eu cyflwyno'n ehangach yng Nghymru yn 2023.
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwyf wrth fy modd bod Saint-y-brid wedi cael ei dderbyn i weithredu un o gynlluniau peilot 20mya Llywodraeth Cymru. "Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr oedd y pentrefwyr ei eisiau. Rydym wedi gwrando ar eu pryderon ac wedi gallu cymryd camau pendant. "Gyda siopau, swyddfa bost a thafarn ar y brif ffordd, yn ogystal ag ysgol gynradd ac amwynderau eraill mewn mannau eraill yn y pentref, credwn fod 20mya yn derfyn cyflymder priodol ac yn un a ddylai wneud Saint-y-brid yn fwy diogel." Dwedodd y Cynghorydd Stewart Edwards, Aelod Ward Cyngor Bro Morgannwg dros Saint-y-brid: "Rwyf wrth fy modd ein bod ni, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Saint-y-brid a’r grŵp Cadw Saint-y-brid yn Ddiogel, wedi llwyddo i sicrhau'r cynllun peilot 20mya hwn. Bydd y cynllun hwn yn gwneud y pentref yn lle mwy diogel ac edrychaf ymlaen at ei weithredu."
Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwyf wrth fy modd bod Saint-y-brid wedi cael ei dderbyn i weithredu un o gynlluniau peilot 20mya Llywodraeth Cymru.
"Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth yr oedd y pentrefwyr ei eisiau. Rydym wedi gwrando ar eu pryderon ac wedi gallu cymryd camau pendant.
"Gyda siopau, swyddfa bost a thafarn ar y brif ffordd, yn ogystal ag ysgol gynradd ac amwynderau eraill mewn mannau eraill yn y pentref, credwn fod 20mya yn derfyn cyflymder priodol ac yn un a ddylai wneud Saint-y-brid yn fwy diogel."
Dwedodd y Cynghorydd Stewart Edwards, Aelod Ward Cyngor Bro Morgannwg dros Saint-y-brid: "Rwyf wrth fy modd ein bod ni, gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Saint-y-brid a’r grŵp Cadw Saint-y-brid yn Ddiogel, wedi llwyddo i sicrhau'r cynllun peilot 20mya hwn. Bydd y cynllun hwn yn gwneud y pentref yn lle mwy diogel ac edrychaf ymlaen at ei weithredu."