Darganfod gwenynen brin ym Mro Morgannwg
Mae Partneriaeth Natur Leol y Fro a Chyngor Bro Morgannwg wrth eu bodd o adrodd bod dwy boblogaeth newydd o’r Wenynen Durio Moron (Andrena nitidiuscula) wedi'u darganfod ym mharciau gwledig Porthceri a Llynnoedd Cosmeston ym Mro Morgannwg.
Wedi'u cyfyngu i siroedd deheuol Lloegr gynt, darganfuwyd y Gwenyn Turio Moron cyntaf yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2020 pan ganfuwyd poblogaeth o'r wenynen brin yng Ngwarchodfa Natur Leol Trwyn Larnog ger Penarth.
Mae dwy boblogaeth ychwanegol bellach wedi'u darganfod ym mharciau gwledig Porthceri a Llynnoedd Cosmeston, gan fynd â chyfanswm nifer y safleoedd yng Nghymru lle mae’r wenynen hon i’w gweld i dri - pob un ym Mro Morgannwg.
Gwnaed y darganfyddiadau gan yr entomolegydd lleol Liam Olds wrth gynnal arolygon o greaduriaid di-asgwrn-cefn ar gyfer Partneriaeth Natur Leol y Fro, fel rhan o brosiect ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg i gyflwyno pori cadwraethol yn y ddau barc gwledig.
Mae’r Wenynen Durio Moron yn un o ryw 190 o rywogaethau o wenynen sy'n bodoli yng Nghymru ac mae wedi’i henwi fel hyn oherwydd ei chysylltiad cryf â blodau Moronen y Maes (Daucus carota), y mae'n casglu paill ohonynt.
A hwythau’n ‘brin’ yng ngwledydd Prydain, mae’r Wenynen Durio Moron bellach wedi'i darganfod ar dri safle ym Mro Morgannwg, yr unig sir yng Nghymru sydd â chofnod ohoni.
Nod y prosiect Pori er Lles Cadwraeth, a ariennir gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, yw gwella a chynnal bioamrywiaeth y cynefinoedd glaswelltir hanfodol hyn.
Ers y 1930au rydym wedi colli dros 97 y cant o'n dolydd llawn blodau gwyllt a bydd ailgyflwyno llysysorion fel gwartheg a defaid i bori ein dolydd yn helpu i gyfyngu ar y dirywiad hwn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y prosiect ailwylltio yma.
Dywedodd Liam Olds, yr entomolegydd a wnaeth y darganfyddiadau: "Mae darganfod y wenynen brin hon mewn dau barc gwledig ym Mro Morgannwg yn annisgwyl ond yn gyffrous iawn, ac mae’n pwysleisio gwerth bywyd gwyllt pwysig y parciau gwledig hyn. Yn amlwg, mae Bro Morgannwg yn lle arbennig i Wenyn Turio Moron a gobeithio y bydd y wenynen brin hon yn parhau i ffynnu a lledaenu ledled y sir."
Meddai Emily Shaw, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol y Fro: ”Fel yr unig sir yng Nghymru i gofnodi'r wenynen brin hon, mae'r darganfyddiad yn pwysleisio prinder ein gwybodaeth am natur ym Mro Morgannwg ac yng Nghymru. Mae cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymorth amhrisiadwy i'r Bartneriaeth Natur Leol. Yn ogystal â helpu i gynyddu a chefnogi bioamrywiaeth leol, mae’r prosiectau hyn yn gwella ein dealltwriaeth a'n hymwybyddiaeth o rywogaethau sydd dan fygythiad, gan helpu i lywio blaenoriaethau rheoli cadwraeth yn y Fro yn y dyfodol."
Meddai Mel Stewart, Ceidwad Porthceri: “Un o’r rhesymau dros ddyfodiad y Wenynen Durio Moron i’r parc, ynghyd â llawer o rywogaethau newydd eraill, yw’r prosiect 'ailwylltio' ar yr hen gwrs golff. Mae creu 12 pwll dŵr newydd, plannu llwyni a phlanhigion ifanc newydd, galluogi adfywio naturiol a'r prosiect creu dolydd, a ariannwyd drwy'r PNL y llynedd, wedi creu amrywiaeth o gynefinoedd hynod o fioamrywiol ar gwrs golff a fu unwaith yn ddiffrwyth."
Mae Partneriaeth Natur Bro Morgannwg yn chwilio am brosiectau a fydd yn cyflawni ein nod o gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau. Mae gan Bartneriaeth Natur Leol y Fro gronfa gyfalaf y gellir ei defnyddio ar gyfer prosiectau ymarferol. Mae grantiau (hyd at £1000) ar gael i brynu deunyddiau ac offer i helpu i gefnogi eich prosiectau bywyd gwyllt ym Mro Morgannwg.
I wneud cais, llenwch ffurflen gais a'i dychwelyd.
Bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel Grantiau Partneriaeth Natur Leol y Fro, sy'n cynnwys aelodau o Grŵp Llywio Partneriaeth Natur Leol y Fro. Bydd y panel yn adolygu pob cais ar ôl y dyddiad cau.