Pafiliwn Pier Penarth i gynnal diwrnod agored
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal diwrnod agored ym Mhafiliwn Pier Penarth ddydd Sadwrn i arddangos y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i'r gymuned leol.
Ers dechrau gweithredu'r adeilad ym mis Chwefror, mae'r Cyngor wedi gwneud llu o welliannau ac wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf i ganfod sut yr oedd trigolion am iddo gael ei ddefnyddio.
Dadansoddwyd yr adborth hwnnw a thros y misoedd diwethaf mae amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau plant, sesiynau gwneud torch, perfformiadau cerddorol ac arddangosfeydd wedi digwydd, lawer ohonynt am ddim.

Bydd mwy na 200 o ddigwyddiadau wedi'u cynnal yn y pafiliwn erbyn mis Mehefin ac mae'r Cyngor yn awyddus i'r cyhoedd ystyried posibiliadau pellach.
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Te Prynhawn Diddiwedd gyda Phrosecco, Brecinio gyda Siôn Corn a Pharti Nos Galan wedi’u trefnu gyda thocynnau ar gael drwy Eventbrite.
Bydd y diwrnod agored yn dechrau am 11am gyda sesiwn canu carolau gyda Byddin yr Iachawdwriaeth cyn i bobl gael eu gwahodd y tu mewn i'r pafiliwn i gael te, coffi a mins peis.
Bydd arddangosfa fwrdd yn yr oriel yn dangos y gwaith sydd wedi digwydd dros y 10 mis diwethaf.
Bydd cynrychiolwyr o sinema Snowcat hefyd yno i dywys pobl o amgylch y sinema, a bydd cyfle i weld y cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer seremonïau priodas.
Gall y cyhoedd fynd i’r digwyddiad, sy’n gorffen am 4pm, drwy’r dydd am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae ein staff wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y flwyddyn ddiwethaf i adfer y pafiliwn i'w hen ogoniant.
"Ein nod yw sefydlu'r adeilad fel hyb y gall y gymuned gyfan ei fwynhau felly rydym yn awyddus iawn i glywed barn trigolion a dangos y newidiadau sydd wedi'u gwneud.
"Rydym am i'r pafiliwn fod yn fan bywiog ac amrywiol all fod yn destun balchder i bobl leol ac yn ganolbwynt i ymwelwyr.
"Mae cymaint eisoes wedi'i wneud, ond mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol hefyd."
Wrth gymryd yr adeilad drosodd, aeth y Cyngor ati'n gyflym i asesu ei gyflwr, gan drefnu gwaith atgyweirio a glanhau trylwyr.

Yna agorodd y Big Fresh Café, a redir gan gwmni arlwyo'r Cyngor, sy’n cynnig amrywiaeth o fwyd a diod gan gyflenwyr lleol i’w mwynhau yn yr adeilad neu fel tecawê.
Yn ogystal â chyfrannu at gostau rhedeg y Pafiliwn, defnyddir elw Big Fresh i ariannu prydau ysgol iach i ddisgyblion y Fro.
Ers yr haf, mae seremonïau priodas a brecwastau priodas wedi'u cynnal yn y pafiliwn.
Mae’r sinema a’r bar hefyd wedi ailagor ac mae trafodaethau'n parhau ynghylch cynnal digwyddiadau cerddorol, celfyddydol a chomedi byw ychwanegol.
Ymhlith yr awgrymiadau eraill i ddod o arolwg cyhoeddus mae defnyddio'r adeilad fel man bwyd stryd a chynnal dosbarthiadau a sesiynau grŵp yno.