Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 02 Mis Rhagfyr 2021
Bro Morgannwg
Mae trydedd siop wag ar Heol Hollton yn y Barri wedi cael ei thrawsnewid yn nwylo artistiaid lleol fel rhan o brosiect a drefnwyd gan Gyngor Bro Morgannwg.
Bu pump o artistiaid ifanc yn gweithio ar y prosiect ochr yn ochr ag artistiaid graffiti proffesiynol i drawsnewid blaen y siop a chymryd rhan mewn gweithdai yn yr uned Hurts So Good yn Ystâd Ddiwydiannol Windmill Park.
Ariannwyd y prosiect gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac fe'i cyflwynwyd mewn partneriaeth â'r Cyngor, gyda gwaith tebyg ar y gweill yn y dyfodol.
Nod y rhaglen yw ailddatblygu ardaloedd drwy wella golwg eiddo a datblygu adeiladau a danddefnyddir neu sy’n wag.
Yn ogystal â gwaith celf y siop, mae gwelliannau diweddar i strydoedd siopa'r Barri yn cynnwys gosod potiau planhigionn a baneri newydd.
Mae raciau beicio ar thema'r Barri hefyd wedi'u gosod o amgylch Canol y Dref i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch.
Dywedodd y Cynghorydd Burnett:
"Mae'r gwaith artistig a wnaed ar Heol Holltwn yn rhan o raglen helaeth i wella canol trefi ledled Cymru ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad i greu profiad siopa dymunol yma yn y Fro."Y nod yw darparu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar i ymwelwyr, siopwyr a gweithwyr yng nghanol ein trefi. "Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith hwn, ynghyd â gwaith arall, yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion lleol yn ogystal â siopwyr."