Y Cyngor yn lansio ymgynghoriad ar y gyllideb
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn annog trigolion i ddweud eu dweud ar gyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae gwaith i bennu incwm a gwariant yr Awdurdod ar gyfer 2022/23 wedi dechrau ac mae barn pobl sy'n byw yn y Fro yn rhan bwysig o'r broses honno.
Fis diwethaf, amlinellodd yr arweinydd, Neil Moore sefyllfa ariannol lom y mae'r Cyngor ei hwynebu yn dilyn degawd o lymder ac effaith sylweddol Covid-19.
Mae pwysau costau’n llawer uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol - amcangyfrifir eu bod ychydig yn llai na £27 miliwn ar gyfer 2022/23 - ac mae hyn yn effeithio’n fawr ar y broses o gynllunio’r gyllideb.

Daw cyllideb y Cyngor o dair ffynhonnell:
• Y Dreth Gyngor a delir gan drigolion (33% o gyfanswm y gyllideb).
• Ardrethi Busnes a delir gan fusnesau (18%).
• Setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru (49%.
Er nad yw'r setliad ariannol a roddir i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn hysbys eto, bydd hyd yn oed y canlyniad mwyaf optimistig yn debygol o adael diffyg cyllidebol sylweddol.
Dywedodd y Cynghorydd Moore: "Dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf rydym erioed wedi’i phrofi.
"Rwyf am fod yn gwbl glir gyda thrigolion am hynny ac am y ffaith ein bod yn wynebu dewisiadau annymunol wrth i ni geisio cynnal y gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt.
"Er bod y swm a gafwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd yn uwch na'r disgwyl, ni helpodd i fynd i’r afael â’r bwlch a adawyd gan ddeng mlynedd o doriadau cyson i Awdurdodau Lleol.
"Mae hynny, ynghyd â baich ariannol y coronafeirws, wedi gadael y Cyngor mewn sefyllfa heriol dros ben.
"Hoffwn i ni fynd i'r afael â'r sefyllfa gyda'n gilydd felly byddwn yn annog pob trigolyn i gwblhau’r arolwg hwn. Bydd eich barn yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu ar y ffordd orau ymlaen."
Disgwylir i nifer o ffactorau eraill hefyd effeithio'n negyddol ar sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys pwysau chwyddiant fel prisiau ynni cynyddol a newidiadau i daliadau Yswiriant Gwladol.
Mae gan y Fro hefyd boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o blant ag anghenion dysgu cymhleth ac ychwanegol, grwpiau y mae angen mwy o gymorth ac ymyrraeth arnynt.
Mae llawer o gamau eisoes wedi'u cymryd i leihau costau, fel codi tâl am wasanaethau, darparu gwasanaethau mewn partneriaeth a chydweithio â chynghorau eraill.
Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn dal i ystyried rhai penderfyniadau anodd wrth iddo gynllunio'r gyllideb ar gyfer 2022/23.
Er mwyn helpu i wneud y penderfyniadau hynny, gofynnir i drigolion ble yr hoffent i’r arian gael ei wario ac iddynt flaenoriaethu gwasanaethau'r Cyngor sydd bwysicaf iddynt.
Mae'r Cyngor hefyd yn gofyn i drigolion am eu barn ar gynyddu’r dreth gyngor 3.2, 3.9, 4.2 a 7.05 y cant.
Byddai ei chynyddu 3.2 y cant yn golygu gostyngiad sylweddol yng ngwasanaethau anstatudol y Cyngor, byddai ei chynyddu 3.9 a 4.2 y cant yn golygu gostyngiadau llai difrifol, tra byddai ei chynyddu 7.05 y cant - byddai swm treth gyngor y Fro yn cyfateb i gost gyfartalog y dreth gyngor yng Nghymru trwy wneud hyn - yn golygu diogelu’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau.
Ar gyfer eiddo Band D, byddai'r cyfraddau hyn yn gynnydd o £3.65, £4.41, £4.75 neu £7.98 y mis. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 3 Rhagfyr a 17 Ionawr. I gymryd rhan, ewch, e-bostiwch neu ffoniwch 01446 700111.
Caiff cynigion ar gyfer y gyllideb eu trafod gan y Cabinet a phwyllgorau craffu cyn eu cwblhau mewn cyfarfod Cyngor Llawn ym mis Mawrth.