Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 17 Mis Rhagfyr 2021
Bro Morgannwg
Rhoddodd y Big Wrap, Tangent, Eglwys Rydd Unedig y Bont-faen, Clwb Pêl-droed y Barri a CJCH Solicitors i gyd anrhegion i'r achos, sy'n agosáu at 1000 o roddion.
Bydd y rhain yn mynd i blant a phobl ifanc 0-14 a 15+ oed a fyddai fel arall yn annhebygol o dderbyn anrheg ar Ddydd Nadolig.
Mae ein cydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant wedi bod ar y rheng flaen drwy gydol y broses, yn trefnu man gollwng yn Swyddfeydd y Dociau ac yn bagio a thagio'r rhoddion. Byddant yn cael eu danfon i gartrefi ledled y sir gan Dîm Dechrau'n Deg y Cyngor.
Dywedodd yr aelod cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ben Gray, "Rydym mor falch o'n timau Gwasanaethau Plant ac yn ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi cymryd rhan. Mae gweithred fach fel hyn yn mynd ymhell o ran lleddfu rhywfaint o'r pwysau enfawr y gallai teuluoedd ei wynebu dros y Nadolig. "Mae cynlluniau fel hyn hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb anrhegion a mwynhad ar Ddydd Nadolig. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed."
Dywedodd yr aelod cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ben Gray, "Rydym mor falch o'n timau Gwasanaethau Plant ac yn ddiolchgar i'r holl sefydliadau sydd wedi cymryd rhan. Mae gweithred fach fel hyn yn mynd ymhell o ran lleddfu rhywfaint o'r pwysau enfawr y gallai teuluoedd ei wynebu dros y Nadolig.
"Mae cynlluniau fel hyn hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb anrhegion a mwynhad ar Ddydd Nadolig. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae hyn yn bwysicach nag erioed."