Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 17 Mis Rhagfyr 2021
Bro Morgannwg
Mae'r parc wedi'i drawsnewid yn ofod hwyliog, modern gydag offer newydd, wedi'i gynllunio ar gyfer ystod o oedrannau, o blant bach i blant 12 oed.
Mae'r cyfarpar newydd yn cynnwys unedau dringo, siglenni, a phrif atyniad draig drawiadol, i gyd wedi'u hysbrydoli gan thema natur a dreigiau, a benderfynwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Mae'r ardal chwarae hefyd yn addas i blant ag anghenion ychwanegol, gydag offer cynhwysol a nodweddion synhwyraidd megis siglen crud a phaneli synhwyraidd.
Mae ailddatblygiad Belle Vue yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad ym mharc Belle Vue a gweld yr ardal chwarae ar agor i'w defnyddio eto. "Mae'r gwaith adfywio wedi rhoi golwg fodern i'r parc, ynghyd ag offer newydd i amrywiaeth o oedrannau eu mwynhau. "Rwy'n gobeithio y bydd yr ardal chwarae newydd yn rhoi lle llawn hwyl i blant lleol fwynhau chwarae yn yr awyr agored."
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad ym mharc Belle Vue a gweld yr ardal chwarae ar agor i'w defnyddio eto.
"Mae'r gwaith adfywio wedi rhoi golwg fodern i'r parc, ynghyd ag offer newydd i amrywiaeth o oedrannau eu mwynhau.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr ardal chwarae newydd yn rhoi lle llawn hwyl i blant lleol fwynhau chwarae yn yr awyr agored."