Cost of Living Support Icon

 

Lansio cynllun ym Mhenarth i leihau gwastraff bwyd a chefnogi cymunedau lleold

MAE adran dai Cyngor Bro Morgannwg wedi helpu i sefydlu Pod Bwyd ym Mhenarth, gan gynnig bwydydd tun a darfodus i breswylwyr ar sail talu-faint-y-mynnwch.is.

 

  • Dydd Mercher, 18 Mis Awst 2021

    Bro Morgannwg



Gan weithio mewn partneriaeth â gwirfoddolwyr o Helping Hands a Chymdeithas Trigolion STAR, mae'r pod wedi'i leoli yn ystâd St Luc.


Mae ar agor ar ddydd Llun a dydd Gwener rhwng 2pm a 4pm a'i nod yw mynd i'r afael â gwastraff bwyd, gan gefnogi cymunedau lleol sydd wedi wynebu heriau mawr yn ystod y pandemig..

 

foodpod2

Mae'r Pod Bwyd yn rhan o raglen Cymdogaeth Llechen Lân y Cyngor, cynllun dwy flynedd i wneud yr ardal hon o Benarth yn lanach, yn wyrddach, yn iachach ac yn fwy cysylltiedig. 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Adfywio ac Addysg: "Mae llawer o bobl wedi wynebu heriau enfawr ers i'r argyfwng coronafeirws daro ac fel Cyngor mae'n bwysig ein bod yn camu i fyny i ddarparu cymorth mewn unrhyw ffordd y gallwn.


"Ni ddylai neb fynd yn llwglyd a gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i sicrhau nad yw hynny'n digwydd ym Mhenarth.


"Mae'r Pod Bwyd yn cynnig amrywiaeth o nwyddau, gyda phobl yn talu dim ond yr hyn y gallant ei fforddio. Yn aml, mae cynhwysion ar gael ar gyfer nifer o brydau bwyd yn ogystal â hanfodion y cartref.


"Mae gwirfoddolwyr o Helping Hands Penarth a Chymdeithas Trigolion STAR wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o roi'r cynllun hwn ar waith a hoffwn ddiolch iddynt am yr ymdrechion hynny."