Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 02 Mis Medi 2021
Bro Morgannwg
Barri
Anfonir rhybudd cyfreithiol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ffatri roi'r gorau i weithredu, a thynnu'r holl adeiladau o'r tir.
Penderfynwyd ar hyn mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio'r Awdurdod ar ôl i berchnogion y gwaith fethu â datrys anghysondebau rhwng y dyluniad cymeradwy a'r hyn a adeiladwyd.
Ni ddangoswyd nodweddion gan gynnwys tanciau dŵr, peiriannau, trawsgludwr allanol ac is-orsaf ar gynlluniau a dderbyniwyd.
Gyda’i gilydd, mae'r Cyngor o'r farn bod hyn yn torri caniatâd cynllunio, ac nad yw cais cynhwysfawr gan gynnwys yr uchod wedi'i gyflwyno.
Os bydd Biomas y Barri yn apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ymdrin â'r mater.
Dwedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio: "Rwy'n gwbl ymwybodol o gryfder y teimlad ynglŷn â'r gwaith hwn yn lleol a natur pryderon trigolion. "Gwrthodwyd y cais cynllunio gwreiddiol i godi ffatri yn Nociau'r Barri gan y Cyngor yn 2010, ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi ar apêl gan Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru. "Fodd bynnag, nid yw'r datblygiad wedi symud yn ei flaen yn y modd y cytunwyd arno ac, yn anffodus, er gwaethaf deialog hirfaith, mae’n ymddangos mai dyma'r unig ffordd o ddatrys rhai problemau penodol."
Dwedodd y Cynghorydd Edward Williams, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoliadol a Chynllunio: "Rwy'n gwbl ymwybodol o gryfder y teimlad ynglŷn â'r gwaith hwn yn lleol a natur pryderon trigolion.
"Gwrthodwyd y cais cynllunio gwreiddiol i godi ffatri yn Nociau'r Barri gan y Cyngor yn 2010, ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei wyrdroi ar apêl gan Arolygydd a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.
"Fodd bynnag, nid yw'r datblygiad wedi symud yn ei flaen yn y modd y cytunwyd arno ac, yn anffodus, er gwaethaf deialog hirfaith, mae’n ymddangos mai dyma'r unig ffordd o ddatrys rhai problemau penodol."