Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 05 Mis Awst 2021
Bro Morgannwg
Barri
Ar ffurf byngalos coeth eu dyluniad, credir mai'r datblygiad ger y Safle Amwynder Dinesig ar Court Road yn y Barri, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Fe'i crëwyd er mwyn helpu i fynd i'r afael â chynnydd mewn digartrefedd a achoswyd gan bandemig Covid-19 a lleihau'r ddibyniaeth ar lety brys.
Mae tenantiaid eisoes wedi dechrau symud i mewn i’r eiddo, sy’n defnyddio paneli wedi'u hinswleiddio o ansawdd uchel i greu unedau hunangynhwysol sy'n cynnwys lolfa/stafell fwyta/cegin, ystafell wely sengl neu ddwbl ar wahân ac ystafell gawod en-suite.
Maent yn ecogyfeillgar, yn cynnwys ardaloedd bach o ddecin pren er mwyn helpu i greu amgylchedd cymunedol yn ogystal â darn o ofod cyhoeddus, maes parcio a storfa feics.
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Ers i bandemig coronafeirws daro, rydym wedi helpu cannoedd o bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt drwy ddarparu unedau o lety brys ychwanegol mewn gwestyau a lleoliadau Gwely a Brecwast er mwyn sicrhau nad oes neb heb gartref na lle diogel i aros. Mae hynny'n ychwanegol at y 120 o unedau llety dros dro sydd eisoes yn bod a ddarperir gan y Cyngor. "Gyda gafael y pandemig yn llacio, mae'n bwysig nad yw'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n cael eu hunain heb gartref hefyd yn gostwng. "Mae'r byngalos hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddod o hyd i atebion hirdymor i ddigartrefedd. Byddant yn darparu lleoedd diogel, modern a chyfforddus i bobl aros am gyfnod estynedig ac mae prosiectau tebyg eraill ar y gweill hefyd."
Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Ers i bandemig coronafeirws daro, rydym wedi helpu cannoedd o bobl y mae digartrefedd yn effeithio arnynt drwy ddarparu unedau o lety brys ychwanegol mewn gwestyau a lleoliadau Gwely a Brecwast er mwyn sicrhau nad oes neb heb gartref na lle diogel i aros. Mae hynny'n ychwanegol at y 120 o unedau llety dros dro sydd eisoes yn bod a ddarperir gan y Cyngor.
"Gyda gafael y pandemig yn llacio, mae'n bwysig nad yw'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n cael eu hunain heb gartref hefyd yn gostwng.
"Mae'r byngalos hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddod o hyd i atebion hirdymor i ddigartrefedd. Byddant yn darparu lleoedd diogel, modern a chyfforddus i bobl aros am gyfnod estynedig ac mae prosiectau tebyg eraill ar y gweill hefyd."