Tair ffordd i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Ddydd Iau 6 Mai 2021, bydd trigolion Bro Morgannwg yn pleidleisio i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli nhw yn y Senedd, ac fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Bydd ystod o ddewisiadau ar gael i bleidleiswyr o ran bwrw eu pleidlais - yn bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 5pm 20 Ebrill; a’r dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm 27 Ebrill.
Ar gyfer y rheiny sy’n dewis pleidleisio’n bersonol, bydd gorsafoedd pleidleisio yn llefydd diogel i bleidleisio ar 6 Mai.
Anogir pleidleiswyr i gadw nhw eu hunain ac eraill yn ddiogel trwy wneud y canlynol:
• Gwisgo gorchudd wyneb
• Dod â’u pen neu bensil eu hunain
• Golchi eu dwylo wrth fynd i mewn a gadael yr orsaf bleidleisio
• Cadw pellter diogel.
Ni ddylai pleidleiswyr fynd i mewn i orsaf bleidleisio os oes symptomau COVID-19 arnynt, neu os ydynt wedi cael eu gofyn i hunan-ynysu. Bydd darpariaethau ar waith ar gyfer gwneud cais am bleidlais argyfwng trwy ddirprwy mewn argyfwng meddygol.
Dywedodd Debbie Marles, Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n bwysig sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr etholiadau ym mis Mai, ac rydym yn rhoi mesurau ar waith a fydd yn eich helpu i fwrw eich pleidlais yn ddiogel. Gallwch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, lle bydd mesurau diogelwch ar waith, yn ogystal â phleidleisio trwy’r post neu drwy ddirprwy.
“Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais i bleidleisio trwy’r post neu drwy ddirprwy trwy.
“Beth bynnag ffordd rydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, i ddweud eich dweud yn yr etholiadau - y ffordd hawsaf i gofrestru yw ei wneud ar-lein trwy.”
Dywedodd Rhydian Thomas, Cyfarwyddwr y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Eich dewis chi yw sut byddwch yn pleidleisio yn yr etholiadau - gallwch ei wneud yn bersonol, trwy’r post, neu drwy ddirprwy. Os ydych chi’n dewis pleidleisio ym mis Mai, byddwch yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.
“Os byddwch yn pleidleisio’n bersonol, helpwch i gadw chi eich hunan ac eraill yn ddiogel trwy ddilyn y mesurau diogelwch a fydd ar waith yn yr orsaf bleidleisio.
“Os byddwch yn dewis pleidleisio trwy’r post, peidiwch ag aros tan y dyddiad cau i wneud cais. Bydd anfon eich cais nawr yn sicrhau y caiff ei brosesu’n gynnar, ac y gellir anfon eich pleidlais bost atoch yn gynt unwaith y bydd yr ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau wedi eu cadarnhau. Mae’n hawdd gwneud cais, a gallwch ddarganfod sut mae gwneud felly trwy fynd i wefan y Comisiwn.”
Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Mai 2021 yw canol nos dydd Llun 19 Ebrill.