Cost of Living Support Icon

 

Datganiad gan Faer Bro Morgannwg

Yn dilyn marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip y Dug Caeredin, mae’r Cynghorydd Jayne Norman, Maer Bro Morgannwg, wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol.  

 

  • Dydd Gwener, 09 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



“Gyda thristwch mawr y mae Cyngor Bro Morgannwg heddiw yn nodi marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip y Dug Caeredin. Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i Mawrhydi y Frenhines a'r teulu brenhinol ar yr adeg hon.


 “Mae’r holl faneri yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri yn hedfan ar hanner mast. 


 “Gall preswylwyr y Fro sy’n dymuno talu eu parch wneud hynny gan ddefnyddio’r llyfr cydymdeimlad ar-lein ar wefan y Cyngor.


 “Mae’r holl ymrwymiadau dinesig a oedd wedi’u trefnu dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf hefyd wedi’u canslo allan o barch.”


Bydd unrhyw ddiweddariadau ar drefniadau i nodi’r farwolaeth yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn www.bromorgannwg.gov.uk a’u rhannu ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. 

 

Llyfr Cydymdeimlad