Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 13 Mis Ebrill 2021
Bro Morgannwg
Bydd rhaglen ddigwyddiadau 2021/22 yn edrych yn wahanol iawn i’r gwyliau a digwyddiadau penwythnos traddodiadol y mae’r tîm wedi’u cynnal yn y gorffennol. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal dros gyfnod hwy; wythnosau a misoedd yn hytrach na 2 neu 3 diwrnod, a byddant bellach yn ddigwyddiadau mwy personol lle caiff nifer y bobl sy’n bresennol eu rheoli, gan fynd y tu hwnt i dymor digwyddiadau traddodiadol y Fro.
Yn seiliedig ar ystod o themâu, mae’r syniadau ar gyfer y rhaglen hon yn cynnwys gŵyl ffilmiau’r Fro, gŵyl goleuadau dinesig, mis cerdded, diwrnodau hwyl a chwaraeon i’r teulu, marathon lluniau a digwyddiadau canol tref. Yn ogystal, rydym yn awyddus i wneud mwy o ddefnydd o’n Parciau Gwledig ar gyfer y digwyddiadau Nadolig, Calan Gaeaf, Pasg ac ati mwy traddodiadol.
Ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda chi. Rydym yn chwilio am ddarparwyr a sefydliadau profiadol a phroffesiynol sydd â’r capasiti a’r gallu i’n cefnogi ni wrth gynnal ein digwyddiadau, mewn ffyrdd creadigol ac arloesol. Cysylltwch â ni os gallwch chi fod o gymorth. E-bostiwch cyn dydd Llun 19 Ebrill i gyflwyno eich hun a rhannu manylion ynglŷn â’ch profiad blaenorol o gynnal digwyddiadau arloesol, creadigol ac ymgysylltiol. Yn ddiweddarach y mis hwn rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad ar-lein i gyflwyno’r rhaglen a gwahodd unrhyw gwestiynau cyn rhannu manylion y broses gaffael drwy GwerthwchiGymru.
Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’r hyn rydym yn dwlu arno - digwyddiadau ym Mro Morgannwg.