Y Cyngor yn helpu'r sector manwerthu nad yw'n hanfodol i ailagor yn ddiogel
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio'n agos gyda busnesau i gadw pobl yn ddiogel wrth i’r sector manwerthu nad yw'n hanfodol ailagor.
O heddiw ymlaen, gall mwy o siopau ddechrau croesawu cwsmeriaid yn ôl ar ôl i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid19.
Mae'r Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â pherchnogion busnes drwy gydol yr argyfwng, gan eu helpu i wneud cais am gymorth ariannol a rhoi arweiniad ar sut i weithredu'n ddiogel pan fydd rheolau'n caniatáu hynny.
Er mwyn diogelu'r cyhoedd, bydd swyddogion hefyd yn monitro busnesau, gan gynnig cyngor ar welliannau y gallai fod angen eu gwneud a chymryd camau gorfodi os bydd angen.

Mae'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR), y corff sy'n gysylltiedig â'r Cyngor sy'n sicrhau bod busnesau'n cadw at gyfyngiadau Covid-19, wedi cyhoeddi 68 o rybuddion gwella yn y Fro.
Ac mae wyth busnes wedi cael gorchymyn i gau'n gyfan gwbl.
Dywedodd Dave Holland, Pennaeth y GRhR: "Rydym wrth ein bodd bod mwy o fusnesau bellach yn gallu dechrau gweithredu eto ar ôl cyfnod eithriadol o anodd.
"Mae mesurau llym ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a gweithwyr a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu pob busnes i weithredu mewn modd diogel.
"Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth â busnesau, gan eu cynorthwyo i gydymffurfio â'r rheoliadau.
"Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau pendant yn erbyn busnesau sy’n gwrthod dilyn y canllawiau ac sy’n torri'r rheolau'n gyson. Gallai hyn olygu cau safle hyd nes y bydd y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud."
I gael mwy o wybodaeth am sut i weithredu busnes yn ddiogel, ewch i wefan y GRhR.