Cost of Living Support Icon

 

Dweud wrth ymwelwyr sy’n ymddwyn yn wael i aros gartref

Mae neges lem yn cael ei hanfon at bobl sy’n bwriadu ymweld â chyrchfannau Bro Morgannwg cyn penwythnos gŵyl y banc: Peidiwch â dod os na allwch ymddwyn yn briodol.

 

  • Dydd Iau, 01 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth

    Barri

    Rural Vale



Mae’r cyfyngiadau wedi dechrau cael eu llacio ac mae’r tywydd yn gwella sy’n golygu bod llawer o bobl wedi bod yn mynd i ardaloedd arfordirol y Fro yn y dyddiau diwethaf.


Adroddwyd bod torfeydd mawr yn Ynys y Barri, Esplanâd Penarth ac Ogwr ar ddechrau’r wythnos hon, ac er i lawer o’r bobl yma ymddwyn yn briodol, nid oedd hyn yn wir am bawb.


Mae'r Cyngor wedi derbyn nifer o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys gollwng sbwriel ac yfed gormod o alcohol, a bod pobl wedi ymgynnull mewn niferoedd mawr, gan dorri rheolau ymbellhau cymdeithasol.


Bydd Timau Gorfodi ar y Cyd, sy'n cynnwys swyddogion gorfodi'r Heddlu a'r Cyngor, ar batrôl y penwythnos hwn ac mae ganddynt y pŵer i roi cosbau ariannol ac i gymryd camau eraill mewn ymateb i droseddau o'r fath.


Mae neges y ddau sefydliad yn glir - ni chaniateir ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghyrchfannau Bro Morgannwg.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn galed i bawb. Rydym wedi gorfod aros y tu mewn am gyfnodau hir felly rwy'n deall yn iawn awydd pobl i ymweld â'n lleoliadau arfordirol gan fod y cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio.


"Yn fwy na hynny, rydym yn falch iawn o'u croesawu – ond dim ond os gallant ymddwyn mewn modd ystyriol, gan ddangos parch at y cyrchfannau, y preswylwyr ac ymwelwyr eraill.


"Os nad yw hynny'n bosibl, os ydych chi'n benderfynol o yfed gormod, o daflu sbwriel, neu o gymryd rhan mewn unrhyw fath arall o ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae fy neges yn syml: Arhoswch gartref. Peidiwch â dod i'r Fro, nid ydyn ni am eich cael chi yma."

Mae'r Cyngor yn gwneud mwy o waith glanhau yn ystod yr haf pan ddisgwylir mwy o ymwelwyr. Mae traeth Ynys y Barri’n cael ei glirio ac mae sbwriel yn cael ei gasglu bob bore, tra bo sesiynau casglu sbwriel ychwanegol yn cael eu cynnal gyda'r nos ar y penwythnos.  Mae'r staff hefyd ar batrôl i gael gwared ar sbwriel yn ystod y dydd.

Dywedodd Tony Williams, Prif Arolygydd Caerdydd a Bro Morgannwg: "Drwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid awdurdod lleol i gadw ein cymunedau'n ddiogel a bydd y dull hwnnw'n parhau dros ŵyl y banc.
"Bydd mwy o batrolau mewn ardaloedd allweddol, a byddwn yn parhau i gydgysylltu â'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru i ystyried gweithredu mesurau sy'n ein galluogi ymhellach i gadw ein cymunedau'n ddiogel.


"Rydym yn gwerthfawrogi bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, a chyda'r cyfyngiadau teithio’n cael eu llacio a’r gwell tywydd yn ddiweddar rydym yn disgwyl i rai o'n mannau prydferth fod yn brysurach.


"Fodd bynnag, byddwn yn apelio at y cyhoedd i fod synhwyrol ac i barhau i gefnogi'r cyfyngiadau sydd ar waith o hyd, er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel.


"Gall y rhai sy'n torri'r rheoliadau neu sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau ddisgwyl bod yn destun camau gorfodi."