Cost of Living Support Icon

 

Ysgol y Deri i ymddangos yn rhaglen ddogfen newydd y BBC

Bydd Ysgol y Deri yn ymddangos mewn cyfres o dair rhaglen newydd ar y BBC, A Special School, yn amlygu'r gwaith ysbrydoledig sy'n cael ei wneud i helpu disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ym Mro Morgannwg.

 

  • Dydd Mercher, 09 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



YYD3

 

Mae’r ysgol hon ym Mhenarth yn darparu ar gyfer myfyrwyr rhwng tair ac 19 oed sydd ag ystod o anghenion dysgu, anghenion corfforol ac awtistiaeth.


Ffion Humphries o Slam Media sy’n cynhyrchu'r gyfres o dair pennod 30 munud o hyd, y caiff y cyntaf ohonynt ei ddarlledu ar BBC One Wales, dydd Llun, 14 Medi, am 8.30pm. Bydd set gyflawn o'r holl benodau ar gael ar BBC iPlayer ar yr un diwrnod.


"Daeth Ysgol y Deri i'm sylw am y tro cyntaf pan recordiais ddarn ar Lisa Rees-Renshaw ar gyfer BBC Classroom Heroes yn 2017," meddai Ffion.


"Cafodd ei henwebu, ac wedyn enillodd, Wobr Addysgu Pearson am Ddefnydd Rhagorol o Dechnoleg mewn Addysg.


"O'r eiliad gyntaf y camais i mewn i'r ysgol gallwn deimlo ei fod yn le arbennig ac eithriadol a fyddai'n gwneud rhaglen ddogfen bwerus.


"Ers yr eiliad gyntaf honno mae gen i barch aruthrol tuag at y staff a myfyrwyr am fod mor gadarnhaol a phenderfynol.


"Rhaglen ddogfen pry-ar-y-wal yw hon yn Ysgol y Deri, sy'n dilyn hynt a helynt nifer o fyfyrwyr, staff a rhieni drwy'r flwyddyn academaidd.


"Mae gan bob cymeriad ei stori a'i bersonoliaeth ei hun - a dyna un o'r prif bethau am Ysgol y Deri, sef dathlu unigoliaeth – mae’r holl ddisgyblion yn cael y cyfle a'r gefnogaeth i fod yn nhw eu hunain."

Mae Ffion wedi bod yn ffilmio yn yr ysgol dros y 12 mis diwethaf i gael y newyddion diweddaraf am y straeon personol a fydd yn ymddangos yn y gyfres.

"Y peth anoddaf am y project fu dewis y prif straeon gan fod Ysgol y Deri yn llawn cymeriadau cryf a siwrneiau atgofus," ychwanegodd.


"Rydym yn gobeithio adlewyrchu gwir natur ysgol arbennig a phwysigrwydd y sefydliad hwn ym mywydau ei disgyblion ifanc - mae'n fwy nag ysgol.


"Mae un peth yn amlwg, nid yw 'alla i ddim' yng ngeirfa Ysgol y Deri - mae cyfleoedd yn cael eu rhoi, ffiniau’n cael eu gwthio a nodau’n cael eu bwrw - mae Ysgol Arbennig yn gwneud yr amhosibl, yn bosibl."

 

Dywedodd Christina Macaulay, Golygydd Comisiynu BBC Cymru: "Rwy'n falch iawn o gael rhannu'r gyfres hon o'r diwedd gyda chynulleidfaoedd ar y teledu ac iPlayer. Wrth edrych ar y ffilmiau yn ystod y gwaith golygu roedden ni'n chwerthin, roedden ni'n crio. Mae hon yn gyfres arbennig am bobl arbennig iawn.

 

"Rwy'n falch iawn o’r gyfres a'r tîm a'i gwnaeth – ac yn ddiolchgar iawn i'r ysgol a'r awdurdod lleol am ganiatáu i ni wneud y gyfres bwysig iawn hon.  Gobeithio y bydd yn newid y ffordd y mae pobl yn meddwl am anghenion arbennig ac anabledd."

Agorodd Ysgol y Deri yn 2014 ar ôl cyfuno tair ysgol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.
Mae'n rhan o Gymuned Ddysgu Penarth, sydd hefyd yn cynnwys ysgol brif ffrwd St Cyres ac yn un o bump o brojectau a elwodd o fuddsoddiad o £50 miliwn mewn addysg gan y Cyngor.


Bydd buddsoddiad pellach o tua £166 miliwn ar amrywiaeth o gynlluniau dan Gynllun B Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif y Cyngor yn golygu y gellir cynnig lle i ragor o blant yn yr ysgol yn y dyfodol. 

Dywedodd y Pennaeth Chris Britten: "Fel ysgol, ein nod yw bod yn gadarnhaol, yn gynnes ac yn groesawgar. Mae gennym ni amrywiaeth wych o gyfleusterau a staff sy’n meddu ar agwedd gadarnhaol.


"Rydym yn gweithio gyda phob plentyn fel unigolyn gan sicrhau bod ei anghenion addysgol a therapiwtig yn cael eu diwallu fel y gall ffynnu yn ein hysgol a phan fydd yn ei gadael."