Gwahodd ffotograffwyr i greu’r delweddau gorau o'r Barri ar gyfer ffotothon newydd
Bydd y FfotoBarrithon yn rhoi’r cyfle i ffotograffwyr proffesiynol ac amatur gyflwyno eu hargraffiadau creadigol o olygfeydd, seiniau a chymeriadau'r dref.

Wedi'i drefnu gan y project Barry Making Waves, bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 10 Hydref a bydd yn cynnwys dau ddigwyddiad. Bydd y cyntaf yn ddigwyddiad 12 awr ar 12 pwnc, gyda ffotograff yn cael ei gyflwyno ar gyfer pob un. Bydd yr ail yn ddigwyddiad i deuluoedd – yn rhedeg am 6 awr ac yn gofyn am 6 llun ar 6 phwnc gwahanol.
Caiff y pynciau eu rhyddhau bob tair awr, gyda'r llwyth cyntaf yn cael ei roi wrth gofrestru yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Neuadd Goffa. Bydd caffis, siopau a lleoliadau eraill ledled y Barri ac Ynys y Barri hefyd yn dosbarthu pynciau drwy gydol y dydd.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn gallu dod o hyd i’r holl bynciau ar y cyfryngau cymdeithasol. Fe'ch gwahoddir i ddefnyddio ffonau symudol yn ogystal â chamerâu digidol. Bydd enillwyr yn cael ei ddewis o bob categori a bydd gwobr i'r ddau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Lis Burnett: "Mae hwn yn gyfle gwych i ffotograffwyr brwd o bob oed a lefel gymryd rhan. Nid oes angen unrhyw offer arbennig, dim ond cofrestru a dangos i ni beth rydych chi'n teimlo sy'n arbennig am eich tref. ""
"Bydd y gwaith a gesglir yn cael ei ddefnyddio i arddangos i ymwelwyr y gorau sydd gan y Barri i'w gynnig."
Bydd angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn a bydd rhaid i gyfranogwyr archebu ymlaen llaw. Yn anffodus, ni fydd yn bosibl ymuno ar y dydd.
Gallwch archebu drwy Ticket Source nawr.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Barry Making Waves ac adran Cynllunio ac Adfywio Cyngor Bro Morgannwg. Bydd y ffotograffwyr lleol Lee Aspland a Michael Goode a Neuadd Goffa'r Barri yn gweithio ochr yn ochr â'r sefydliadau i gyflawni'r project.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.barry.cymru/visit/photobarry